Cadeirydd Cyngor Gwynedd 2021 – 22
Dyddiad: 13/05/2021
Yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Gwynedd ar 13 Mai, etholwyd Y Cynghorydd Simon Glyn (Tudweiliog) yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd a'r Cynghorydd Elwyn Jones (Penisarwaun) yn Is-Gadeirydd.
Yn Gynghorydd Gwynedd ers 1995, mae’r Cynghorydd Simon Glyn wedi gwasanaethu ar sawl gwahanol bwyllgor yn ystod y cyfnod hwn.
Wrth gael ei ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd, dywedodd y Cynghorydd Glyn:
“Braint ac yn anrhydedd o’r mwyaf yw cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Gwynedd. Rwy’n edrych ymlaen at wasanaethu holl drigolion Gwynedd yn ystod fy mlwyddyn yn y Gadair ".
Etholwyd y Cynghorydd Elwyn Jones (Penisarwaun) yn Is-Gadeirydd y Cyngor.