Llwyddiant i Fand Pres Gwynedd ac Ynys Môn
Dyddiad: 23/04/2018
Fe gafodd Band Pres Hŷn Gwynedd a Môn, sy’n rhan o grwpiau a gweithgareddau Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn lwyddiant mewn cystadleuaeth diweddar trwy Brydain.
Daeth Band Pres Hŷn Gwynedd a Môn dan arweiniad Mr Dylan Williams yn drydydd ac ennill gwobr Aur ym Mhencampwriaeth Bandiau Pres Prydain yn Warwick. Roedd yna 15 o fandiau eraill yn cystadlu yn eu herbyn trwy Brydain yn yr adran hon.
Mae aelodau’r band yn cynnwys disgyblion sydd rhwng 13 a 18 oed sy’n derbyn gwersi offerynnol yn ysgolion Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn yn hynod falch o’r cerddorion ifanc yma ac yn ddiolchgar iawn iddynt i gyd am eu hymroddiad yn ystod cyfnod prysur adolygu tuag at arholiadau TGAU a Lefel A. Fe wnaeth dau aelod deithio i Warwick yn hwyr nos Sadwrn ar ôl bod yn cysatdlu yng Nghystadleuaeth Band Cymru a gynhaliwyd yn Abertawe pryd enillodd Band Jazz Ysgol Tryfan y wobr gyntaf. Diolch arbennig i Mr Dylan Williams am eu harwain ac i’r tiwtoriaid am eu cefnogaeth.
LLUN: Y band yn y gystadleuaeth Bandiau Pres Prydain yn Warwick