Sesiynau galw-i-mewn yn Nolgellau i rannu cynlluniau safle hen Ysgol Glan Wnion
Dyddiad: 27/01/2022
Mae Cyngor Gwynedd yn gwahodd trigolion Dolgellau i sesiynau galw-i-mewn yn y dref i glywed am y cynlluniau i addasu safle hen Ysgol Glan Wnion.
Mae nifer y bobl sy’n cyflwyno yn ddigartref yng Ngwynedd, gan gynnwys Meirionnydd, wedi cynyddu’n aruthrol dros y blynyddoedd diweddar. Hyd yma, ym Meirionnydd yn unig, mae 234 o bobl ddigartref wedi eu cyflwyno i’r Cyngor eleni, a rhagwelir y bydd y ffigwr hwnnw’n cynyddu i oddeutu 280 erbyn mis Ebrill, 2022 (o gymharu â 253 yn 2020/21).
Yn ystod y sesiynau yn Llyfrgell Rydd Dolgellau ar 8 a 9 Chwefror, bydd cyfle i swyddogion o Adran Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd rannu’r wybodaeth ddiweddaraf ac i drigolion ofyn cwestiynau ynglŷn â’r datblygiad.
Bydd y datblygiad yn dymchwel yr adeilad presennol sydd wedi bod yn wag ers pum mlynedd. Defnyddir peth o gerrig yr hen ysgol i godi pum uned newydd fydd yn cartrefu unigolion i allu byw yn annibynnol ac yn cynnig cefnogaeth i fagu sgiliau fydd yn galluogi iddynt symud i denantiaeth eu hunain. Bydd y datblygiad yn cynnwys swyddfa ar gyfer staff cefnogol fydd ynghlwm â’r cynllun.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Craig ab Iago:
“Mae’n ffaith drist fod y nifer o bobl sy’n eu cyflwyno eu hunain yn ddigartref wedi cynyddu yn sylweddol ers dechrau’r pandemig ac yn dal i gynyddu, ac mae gwir angen darpariaeth o’r fath ym Meirionnydd. Dydw i ddim yn credu bod hyn yn gyfiawn yn yr oes hon, ac rydw i’n teimlo’n gwbl angerddol dros gynnig datrysiadau i’r unigolion yma.
“Mae’n broblem sy’n effeithio cymunedau ar hyd a lled Gwynedd, ac mae angen cymorth i bobl leol mewn sawl lleoliad yn y sir. Dyna pam rydan ni wrthi’n addasu adeiladau ym Mangor, yn buddsoddi mewn podiau arloesol o dechnoleg Passivhaus yng Nghaernarfon, ac yn codi neu brynu tai er mwyn eu gosod i’n pobl ni yng Ngwynedd.
“Mae’r datblygiad pwysig hwn yn Nolgellau yn rhan bwysig o’n cynlluniau i ddarparu cefnogaeth i’r digartref yn ne’r sir.”
Meddai’r Aelod Lleol dros Ogledd Dolgellau ac Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:
“Rydw i’n falch o wahodd fy nghyd-drigolion yn Nolgellau i’r sesiynau anffurfiol hyn. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu ac i drafod y cynlluniau gyda chi trwy gael sgwrs a dangos dyluniadau ar gyfer y datblygiad pwysig hwn.
“Y gwir ydi fod digartrefedd yn gallu effeithio unrhyw un ohonom a hynny am nifer o resymau gwahanol - ar hyn o bryd, mae 33 o unigolion, cyplau a theuluoedd mewn llety argyfwng ym Meirionnydd, gan gynnwys 13 sy'n byw mewn un stafell yn unig megis gwely a brecwast.
“Gobaith y Cyngor ydi y bydd y cynllun yma ar safle’r hen ysgol yn cynnig cefnogaeth orau bosib i bobl Gwynedd fedru byw yn annibynnol o fewn eu cymuned leol. Felly, os oes gennych ddiddordeb yn gwybod mwy am gynllun safle Glan Wnion, neu os ydych eisiau gofyn unrhyw gwestiwn am y datblygiad, dewch i gael sgwrs efo ni.”
Mae’r Cyngor eisoes yn gweithredu i gyfarch anghenion pobl ddigartref yng Ngwynedd, er enghraifft, mae gwaith ar y gweill i greu 16 o unedau â chefnogaeth i’r digartref ym Mangor, uwchraddio hostelau, a chynnig llety â chefnogaeth i bobl ifanc ddigartref yn adeiladau Gisda a Natwest yng Nghaernarfon. Mae llety cefnogol i ferched ym Mhorthmadog wedi agor y llynedd, lle mae pump o unigolion yn derbyn cefnogaeth ar hyn o bryd, a bydd tenantiaid cyntaf podiau arloesol i’r digartref yng Nghaernarfon yn symud i mewn ym mis Chwefror eleni.
Cynhelir y sesiynau gwybodaeth digwyddiadau yma yn Llyfrgell Rydd Dolgellau ar ddydd Mawrth, 8 Chwefror (1pm-4pm) a dydd Mercher, 9 Chwefror (10am-1pm). Er mwyn diogelu’r cyhoedd, cyfyngir y nifer fydd yn ymgynnull ar yr un pryd yn yr adeilad, ac felly gofynnir i unrhyw un sy’n awyddus mynychu i archebu slot ymlaen llaw trwy gysylltu â tai@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01286 679538.