Diwrnod Coffau'r Holocost - 27ain o Ionawr 2022

Dyddiad: 26/01/2022
Holocost Memorial Day Graphic

Diwrnod Coffau'r Holocost

 

Er fod rhai cyfyngiadau Covid-19 wedi golygu ei bod yn fwy anodd cynnal digwyddiadau eleni, mae Cyngor Gwynedd yn annog trigolion i gofio Diwrnod Coffau'r Holocost ar 27 Ionawr.

 

Mae’r un mor bwysig ag erioed fod pobl yn nodi Diwrnod Coffau’r Holocost – mae’n cynnig cyfle i gymunedau fyfyrio ar sut y gall pob un ohonom wneud dyfodol gwell, a mwy diogel, i bawb trwy ddysgu o'r gorffennol.

 

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Simon Glyn:

 

“Mae Diwrnod Coffau’r Holocost yn gyfle i ni gofio’r rhai a gollodd eu bywydau trwy hil-laddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn ystod gwrthdaro diweddarach yn Cambodia, Bosnia, Rwanda a Darfur.

 

“Mae cyn bwysiced heddiw ag erioed ein bod yn nodi’r diwrnod hwn er mwyn sicrhau nad yw troseddau erchyll yr Holocost, nac o hil-laddiad mwy diweddar, yn cael eu hanghofio na’u hailadrodd, boed hynny yn Ewrop nac unlle arall yn y byd.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n arwain ar faterion cydraddoldeb:

 

“Mae hi mor bwysig ein bod byth yn anghofio am erchyllterau’r gorffennol. Rhaid i ni barhau i ddysgu o hanes a chydnabod nad ydi hil-laddiad yn digwydd ar ei ben ei hun - mae'n broses gyson a all ddechrau os na chaiff gwahaniaethu, hiliaeth a chasineb eu cywiro a'u hatal.

 

“Mae’n bwysig hefyd i bob un ohonom - yma yng Ngwynedd gymaint â phobl mewn rhannau eraill o'r byd – i gydnabod gymaint gallwn i gyd ei wneud o hyd i atal gormes ac erledigaeth pobl oherwydd eu hil, credoau, cyfeiriadedd rhywiol ac ati.”

 

Bydd seremoni coffau Cymru yn cael ei ddarlledu ar-lein o 11am ar fore Iau, 27 Ionawr ar  www.youtube.com/cardiffcouncil. Yna, am 8pm, bydd cartrefi ledled y DU yn cael eu hannog (os ydi hi’n ddiogel i wneud) cynnau canhwyllau ac yn eu rhoi yn eu ffenestri i gofio’r rhai a lofruddiwyd am bwy yr oeddent ac i wneud safiad yn erbyn rhagfarn a chasineb.

 

Gallwch ddangos eich cefnogaeth trwy uwchlwytho delwedd o'ch cannwyll ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnodau #HolocaustMemorialDay a #LightTheDarkness

 

Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Coffau’r Holocost ewch i www.hmd.org.uk