Darllen yn cynnig 'Gaeaf Llawn Lles' i bobl ifanc

Dyddiad: 12/01/2022
WoW 2022 Social Assets - Wild - _Mailchimp WELSH

Mae Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd yn cefnogi ymgyrch genedlaethol lle mae pobl ifanc yn cael eu hannog i rannu llyfr sydd wedi bod o fudd i’w iechyd a lles.

 

Yn dilyn blwyddyn anodd i bawb llynedd, mae cynllun ‘Gaeaf Llawn Lles’ Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth i blant a phobl ifanc i deimlo’n well ar ddechrau 2022.

 

Fel rhan o’r cynllun, bydd Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd ar y cyd â’r “Reading Agency” a Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru yn codi ymwybyddiaeth o’r hyn y gall darllen ei wneud i godi hwyliau pobl ifanc a chysylltu teuluoedd, ffrindiau a chymunedau ledled Cymru.

 

Mae’r ymgyrch hefyd yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau i ddosbarthiadau ysgolion megis gweithdai celf, cerddoriaeth a sesiwn stori, symud a chân.

 

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb am lyfrgelloedd:

 

“Mae darllen yn arf bwysig i edrych ar ôl ein hiechyd meddwl, a braf yw gweld y cynllun yma’n dwyn ffrwyth i gynnig cymorth i bobl ifanc y sir yn dilyn blwyddyn anodd y llynedd.

 

“Os ydych yn berson ifanc, neu’n adnabod person ifanc sy’n ddarllenydd brwd, yna rwy’n eich annog i gyfrannu at y rhestr ddarllen er mwyn hybu llesiant pobl ifanc yng Ngwynedd a thu hwnt.”

 

Gwahoddir pobl ifanc i rannu awgrymiadau am llyfr Cymraeg neu Saesneg, boed yn ffuglen, ffeithiol, barddoniaeth neu stori fer sydd wedi bod o help i’w iechyd meddwl mewn unrhyw ffordd. Bydd awgrymiadau yn cael eu casglu ar gyfer rhestr ddarllen er mwyn helpu eraill a hybu lles pobl ifanc ledled Cymru.

 

Am fwy o wybodaeth ac i awgrymu llyfr, ewch i https://linktr.ee/LlyfrgellGwyneddLib