Cadwch lygad am ffrindiau a pherthnasau bregus
Dyddiad: 07/01/2022
Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’w drigolion gadw llygad am eu cymdogion a’u perthnasau yn ystod y pandemig parhaus.
Gydag achosion Covid-19 yn cynyddu drwy’r wlad yn sgil amrywiolyn Omicron, mae’r Cyngor yn gofyn i’r cyhoedd gadw llygad am eu ffrindiau, cymdogion a pherthnasau bregus a allai fod yn wael eu hunain neu a allai fod yn unig am fod eu hymwelwyr arferol yn hunan-ynysu.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant: “Mae’r ymdrech cymunedol yr ydan ni wedi ei weld yma yng Ngwynedd ac ar draws y wlad ers dechrau’r pandemig wedi bod yn destun balchder i ni i gyd.
“Gydag achosion yn parhau yn uchel ar draws Cymru, os oes gennych gymdogion, ffrindiau neu berthnasau sy’n wael neu’n teimlo’n ynysig, fe’ch hanogir i gysylltu â nhw yn ddiogel i weld a oes arnyn nhw angen cymorth i siopa neu unrhyw gymorth arall.
“Efallai mai chi fydd yr unig berson sy’n cysylltu â nhw, felly fe fyddan nhw’n siŵr o werthfawrogi eich caredigrwydd a’ch ystyriaeth. Gall effaith hunan-ynysu ar unigolion sy’n byw ar eu pennau eu hunain neu ar bobl bregus fod yn anodd iawn. Rydym am wneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo’n fregus nac yn ynysig, a’u hannog i dderbyn cymorth gan deulu, ffrindiau neu bobl y maen nhw’n eu hadnabod.
“Fodd bynnag, mae’n hanfodol sicrhau nad ydych chi’n dod i gyswllt agos ag unrhyw un sy’n hunan-ynysu yn sgil Covid-19, felly fe ddylech chi adael unrhyw fwyd neu feddyginiaeth ar garreg y drws, ac mae codi’r ffôn neu gysylltu ar lein yn ffyrdd da o gadw llygad ar rywun heb gynyddu’r risg o ledaenu’r feirws ymhellach.”
Anogir pobl i helpu cefnogi’r ymdrech frechu, ac fe allwch chi wneud apwyntiad ar lein neu fynd i glinigau galw heibio dynodedig i gael eich brechiad cyntaf, yr ail neu’r hwblyn.
Mae’r gwasanaeth archebu ar-lein i’w weld yn: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/trefnu-apwyntiad-ar-lein-pigiad-covid-19/
Mae’n hanfodol ein bod oll yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad Covid-19, ac mae hyn yn cynnwys cadw pellter, gwisgo gorchudd wyneb, agor ffenestri os ydych chi’n cwrdd ag unrhyw un dan do a golchi a diheintio eich dwylo yn rheolaidd.