Trefniadau dychwelyd i'r ysgol
Dyddiad: 05/01/2021
Mae'r sefyllfa Covid-19 yng Nghymru a ledled y DU yn parhau i fod yn ddifrifol iawn.
Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cytuno bod y DU bellach ar y lefel uchaf o risg, gyda'r Cydgyngor Bioddiogelwch ar lefel 5.
Yn unol â’r penderfyniad hwnnw, mae Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cholegau Cymru, wedi cytuno y dylai pob ysgol, coleg ac ysgol annibynnol symud i ddysgu ar-lein tan 18 Ionawr.
Mae mwy o wybodaeth am y cyhoeddiad ar gael yma: Datganiad Ysgrifenedig: Trefniadau dychwelyd i’r ysgol a'r coleg (4 Ionawr 2021) | LLYW.CYMRU