Storm Christoph yng Ngwynedd: Diweddariad Tywydd
Dyddiad: 21/01/2021
Dros y 48 awr ddiwethaf mae Gwynedd fel rhannau eraill o Gymru wedi derbyn tywydd garw iawn - gyda Storm Christoph yn dod â gwyntoedd uchel a glaw trwm a achosodd yr angen cau llawer o’r ffyrdd.
Mae timau Cynnal Priffyrdd Cyngor Gwynedd wedi bod yn gweithio yn ddi-baid, gan ymateb i ddigwyddiadau ar draws rhwydwaith ffyrdd y sir.
Wrth i'r tywydd leddfu ychydig, mae llawer iawn o waith eisoes ar y gweill, gan asesu difrod, atgyweirio'r rhai lleoliadau ac ailagor lle y gallwn.
Yn amlwg, mewn mannau lle mae tirlithriad wedi ansefydlogi y ffordd, bydd yn cymryd mwy o amser i adfer, ond byddwn yn ceisio ein gorau er rhoi sylw buan i’r safleoeodd yma.
Mae'r sefyllfa'n newid yn gyson felly gwiriwch cyn i chi deithio.