Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd yn ymddeol
Dyddiad: 14/01/2021
Mae Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd, Dilwyn Williams wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o’r swydd yn y gwanwyn. Mae hyn yn dilyn gyrfa o fwy na 40 mlynedd mewn gwasanaeth cyhoeddus.
Mae wedi bod yn Brif Weithredwr ers 2014, ac yn ystod yr amser hwnnw wedi arwain ymdrechion y Cyngor i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus i bobl Gwynedd yn wyneb pwysau cyllidebol enfawr ac yn fwy diweddar pandemig Covid-19.
Dywedodd Dilwyn Williams: “Ar ôl gweithio mewn llywodraeth leol yn ardal Gwynedd ers 1979, a chael yr anrhydedd o fod yn Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd am y saith mlynedd diwethaf, rwyf wedi penderfynu mai rŵan ydi’r amser iawn i ymddeol a throsglwyddo’r awenau.
“Mae hi wedi bod yn fraint cael arwain gweithlu ymroddedig ac effeithiol, a byddaf yn gweld eisiau cwmni arbennig fy nghydweithwyr a’r gwir ymdeimlad o deulu sy’n bodoli yng Nghyngor Gwynedd.”
Dechreuodd Dilwyn Williams ei yrfa mewn llywodraeth leol yng Ngwynedd fel Clerc Pwyllgor yr hen Gyngor Sir yng Nghaernarfon cyn symud ymlaen i Adran Trysorlys Cyngor Dwyfor. Ym 1996 penodwyd Mr Williams yn Bennaeth Cyfrifeg Cyngor Gwynedd, a oedd newydd ei ffurfio ar y pryd, cyn ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Strategol Adnoddau ac yn ddiweddarach yn Gyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor. Mae wedi bod yn Brif Weithredwr Cyngor Gwynedd ers 2014.
Meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weithredwr, mae Dilwyn wedi chwarae rhan allweddol yng ngwaith y Cyngor yn yr amser mwyaf heriol yn hanes yr awdurdod.
“Mae o wedi arwain ar y gwaith o amddiffyn y gwasanaethau allweddol y mae preswylwyr yn dibynnu arnynt yn wyneb toriadau difrifol mewn cefnogaeth ariannol gan y llywodraeth. Cyflawnwyd hyn trwy gyflwyno newidiadau radical i drefniadau gweithio trwy weledigaeth Ffordd Gwynedd a ddatblygwyd ganddo.
“Yn fwyaf diweddar, mae wedi sicrhau bod gwasanaethau allweddol y Cyngor yn parhau i gael eu darparu ar gyfer pobl fwyaf bregus Gwynedd yn ystod pandemig Covid-19.
“Trwy gydol ei amser gyda’r Cyngor, mae Dilwyn wedi bod yn eiriolwr cadarn a diflino dros bobl a chymunedau Gwynedd mewn trafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol. Rwy’n siŵr fy mod yn siarad ar ran holl Gynghorwyr Gwynedd wrth ddymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol.
“Mae’n gadael esgidiau mawr i’w llenwi, ond diolch i’r newidiadau y mae wedi’u rhoi ar waith, bydd Dilwyn yn gadael y Cyngor gan wybod bod Gwynedd mewn sefyllfa gadarn i allu cyfarch heriau’r misoedd i ddod wrth i ni, gobeithio, symud tuag at y cyfnod ar ôl y Coronafeirws.”
Mae'r Cyngor yn rhoi trefniadau ar waith i benodi Prif Weithredwr newydd, a'r gobaith yw y bydd ef neu hi'n cymryd yr awenau yn y gwanwyn. Bydd Mr Williams yn aros yn ei swydd tan hynny.
LLUN: Mae Dilwyn Williams wedi penderfynu ymddeol yn y gwanwyn