Llesiant i Mi: Cymuned greadigol ar-lein Gwynedd yn cefnogi llesiant
Dyddiad: 05/01/2021
Yn dilyn blwyddyn ddigon anodd i bawb, sydd wedi cael effaith ar sawl un ohonom, mae prosiect ar y gweill i gynnig gweithgareddau creadigol ar-lein fydd yn hwb i gychwyn 2021 mewn ffordd bositif gan gefnogi llesiant meddyliol.
Mae'r prosiect, fydd yn cael ei weithredu ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a Thîm Llesiant Cyngor Gwynedd wedi'i seilio o amgylch y 'pum ffordd at les', sef pum gweithred sy’n cyfrannu'n bositif tuag at lesiant meddyliol – cysylltu, dal i ddysgu, bod yn actif, sylwgar a rhoi.
Meddai Gwawr Roberts, Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd: “Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael eu gwahodd i grŵp Facebook caeedig ac yn cael eu tywys drwy’r rhaglen gan dîm bychan sydd am rannu eu profiadau a’u syniadau o ran creadigrwydd a llesiant.
“Nid rhaglen o driniaeth na therapi clinigol ydi ‘Llesiant i Mi’, ond yn hytrach mae’n gynllun i ysbrydoli a rhannu syniadau a all fod o gefnogaeth i bobl Gwynedd.”
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu'r Economi a Chymuned Cyngor Gwynedd: “Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn amser caled iawn i ni gyd, a braf iawn yw gweld prosiect calonogol fel hyn yn cael ei gynnal ar ddechrau 2021.
“Does dim dwywaith fod y coronafeirws wedi cael effaith ar lesiant meddyliol nifer o bobl, ac mae gweithgareddau creadigol fel hyn yn help i bobl rannu eu profiadau ac ysbrydoli eraill i gychwyn y flwyddyn newydd ar dudalen lân gan obeithio am flwyddyn well i bawb ohonom.”
Am fwy o wybodaeth, ac i gofrestru ewch i dudalen Facebook Gwynedd Greadigol ble bydd dolen gyswllt i ffurflen gofrestru ar Eventbrite yn cael ei rannu: https://www.facebook.com/gwyneddgreadigolcreativegwynedd/
Neu e-bostiwch gwawrwynroberts@gwynedd.llyw.cymru