Eisteddfod rithiol gyntaf Gwasanaeth Cerdd Ysgolion
Dyddiad: 11/01/2021
Gyda chyfyngiadau ar ddigwyddiadau byw yn parhau, mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn wedi penderfynu creu cyfle i’w disgyblion berfformio ar lwyfan rhithiol.
Am y tro cyntaf bydd y Gwasanaeth, sy’n darparu gwersi llais ac offerynnol i ddisgyblion yng Ngwynedd a Môn, yn cynnal eisteddfod rithiol i alluogi plant a phobl ifanc y ddwy sir i gystadlu ac arddangos eu doniau ar blatfform digidol.
Gyda sêr ac enwau adnabyddus o fyd cerddoriaeth Cymru yn feirniaid mae’r digwyddiad eisoes wedi denu cryn ddiddordeb gan ysgolion ar draws y rhanbarth. Mae Mared Williams a Dafydd Jones, y ddau wedi creu enwau iddyn nhw eu hunain fel cantorion blaenllaw ymysg y beirniaid, yn ogystal â’r delynores Katherine Thomas, a’r pianyddion Rhiannon Pritchard a Richard Vaughan.
Dywedodd Tudur Eames, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cerdd: “Mae creu cyfle i blant a phobl ifanc ddatblygu talent a mwynhau cerddoriaeth yn greiddiol i’n gweledigaeth ni, ond mae’n dod yn gynyddol anodd i greu’r cyfleodd hynny heb fod yn greadigol. Dyma benderfynu felly creu cyfle ein hunain drwy drefnu’r eisteddfod rithiol.
“Mae wedi bod yn gyfnod mor anodd i bawb, yn enwedig felly i blant a phobl ifanc sy’n wynebu cyfnod arall gyda’r ysgolion ar gau. Heb gyfle i gymryd rhan mewn cyngherddau, cystadlu a hyd yn oed gwersi wyneb yn wyneb roedden ni yn benderfynol o geisio rhoi rheswm iddynt ddal ati i ymarfer ac i gael mwynhad o gerddoriaeth.”
Wrth drafod y digwyddiad dywedodd Mared Williams: “Rydw i wrth fy modd yn cael cymryd rhan yn yr eisteddfod rithiol ac yn edrych ymlaen at gael clywed yr holl berfformiadau a cheisiadau. Mae’r cyfnod yma wedi gorfodi ni gyd i feddwl yn wahanol am sut i barhau i weithio, dysgu a rhyngweithio efo’n gilydd, rydw i’n siŵr felly y bydd yr eisteddfod yn llwyddiant mawr. Mae cymaint o dalent ymysg ein pobl ifanc – mae’n bwysig ei fod yn cael ei glywed a’i fwynhau.”
Mae Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn wedi bod yn darparu gwersi cerddoriaeth mewn ysgolion ar draws y ddwy sir ers 1996. Mae gan y Gwasanaeth dros 50 o diwtoriaid proffesiynol ar gyfer y llais a phob offeryn. Mewn cyfnod arferol mae gwersi yn cael eu cynnal mewn dros 150 o ysgolion ar draws y rhanbarth, ond ers cyfnod clo gwanwyn 2020 mae sesiynau wedi bod yn cael eu cynnal ar-lein.
Sut i gymryd rhan yn yr eisteddfod?
I gymryd rhan yr oll sydd angen i ddisgyblion ei wneud yw anfon fideo o’u perfformiad at y Gwasanaeth Cerdd erbyn y 21ain o Ionawr. Mae manylion llawn a rhestr testunau ar cerdd.com. Yn wahanol i eisteddfod arferol bydd nifer o’r perfformiadau yn cael eu beirniadu ar sail lefel neu radd yn hytrach nag oedran.
Gwybodaeth bellach
Am wybodaeth am yr eisteddfod a sut i gymryd rhan cysylltwch â cystadlu@cerdd.com neu ffoniwch 01286 685289.
Llun: Y gantores, Mared Williams