Tirwedd Llechi Cymru wedi'i enwebu ar gyfer Statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO

Dyddiad: 24/01/2020
23-01-20 Llechi + Gweinidogion

Gallai Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru fod y Safle Treftadaeth y Byd nesaf y DU. Cyhoeddwyd hyn gan Weinidog Treftadaeth Llywodraeth San Steffan, Helen Whately wrth iddi gyflwyno’r enwebiad ffurfiol i UNESCO.

Os caiff ei dderbyn, bydd y dirwedd yn ennill ei le fel rhif 33 o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO yn y DU a'r 4ydd yng Nghymru, yn dilyn Traphont Ddŵr Pontcysyllte, Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon a Chestyll a Waliau Tref y Brenin Edward yng Ngwynedd.

Daeth y dirwedd - sy'n ymestyn ledled sir Gwynedd - yn arweinydd y byd ar gyfer cynhyrchu ac allforio llechi yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif. Tra bod llechi wedi cael eu chwarela yng ngogledd Cymru ers dros 1,800 o flynyddoedd ac yn cael ei ddefnyddio i adeiladu rhannau o'r gaer Rufeinig yn Segontium Caernarfon a chastell Edward I yng Nghonwy, dim hyd nes y Chwyldro Diwydiannol y cynyddodd y galw wrth i ddinasoedd ledled y DU ehangu, gyda llechi yn cael eu defnyddio'n helaeth i roi do ar gartrefi gweithwyr a ffatrïoedd.

Erbyn yr 1890au roedd diwydiant llechi Cymru yn cyflogi tua 17,000 o bobl ac yn cynhyrchu 485,000 tunnell o lechi'r flwyddyn. Cafodd y diwydiant effaith enfawr ar bensaernïaeth fyd-eang gyda llechi Cymreig yn cael eu defnyddio ar nifer o adeiladau, terasau a phalasau ledled y byd gan gynnwys Neuadd San Steffan, Adeilad yr Arddangosfa Frenhinol, Melbourne, Awstralia a Neuadd Dinas Copenhagen, Denmarc.

 

Dywedodd Gweinidog Treftadaeth y DU, Helen Whately:

“Mae'r dirwedd lechi anhygoel yma yn hynod arwyddocaol i ogledd-orllewin Cymru a'i dreftadaeth ddiwydiannol. Disgrifir yr ardal fel un sydd wedi ‘rhoi to ar fyd y 19eg ganrif’ ac mae’r llechen o’r chwareli yn parhau i gael dylanwad ar bensaernïaeth ledled y byd.

“Mae’r enwebiad yma yn ffordd wych o gydnabod pwysigrwydd treftadaeth chwareli llechi Cymru a fydd yn dod â budd nid yn unig i Wynedd ond i ogledd Cymru gyfan trwy ddenu ymwelwyr, hybu buddsoddiad a chreu swyddi.”

Yn ogystal â'r galw rhyngwladol am lechi Cymreig, rhwng 1780 a 1940 roedd yr ardal hefyd yn gartref i nifer o ddatblygiadau dyfeisgar mewn chwarela a phrosesu cerrig a thechnoleg rheilffordd ar gyfer tirwedd mynyddig.

Mae’r dirwedd heddiw wedi cael ei drawsnewid ar raddfa anferth oherwydd cannoedd o flynyddoedd o gloddio yn yr ardal. Mae’r enwebiad i UNESCO yn adlewyrchu hyn ac arwyddocâd rhyngwladol llechi Cymreig wrth ‘rhoi to ar fyd y 19eg ganrif’.

Mae Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru bellach wedi’i gyflwyno’n ffurfiol i UNESCO fel enwebiad nesaf y DU i’w osod ar Restr Treftadaeth y Byd gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Bydd y safle rwan yn cael ei ystyried gan Gyngor Rhyngwladol ar Henebion a Safleoedd dros y flwyddyn nesaf cyn cael ei ystyried i'w gadarnhau yng nghyfarfod Pwyllgor Treftadaeth y Byd yn 2021. Rhagwelir y bydd penderfyniad ar statws Tirwedd Llechi Cymru yn y dyfodol yn cael ei wneud yn ystod cyfarfod Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO 2021.

 

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru, yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Rydym wrth ein bodd y bydd Tirwedd Llechi Gogledd Cymru yn cael ei gyflwyno fel enwebiad nesaf y DU fel Safle Treftadaeth y Byd. Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwydiannol unigryw ac amrywiol sy’n llawn haeddu cael ei ddathlu.

“Mae'r enwebiad yma yn rhoi cydnabyddiaeth bellach i’r dirwedd ragorol hyn - o rywbeth sydd wedi'i wreiddio yn ein daeareg a'n diwylliant, ond sydd ag arwyddocâd byd-eang. Hoffwn ddiolch i'r holl bartneriaid am eu gwaith caled wrth baratoi'r cais a hoffwn ddymuno'n dda i'r cais wrth iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol.”

 

Dywedodd Gweinidog Swyddfa Gymreig Llywodraeth y DU, David TC Davies:

“Mae tirwedd drawiadol Gymreig arall wedi cael ei enwebu’n ffurfiol i ymuno â rhestr hir o ryfeddodau’r byd - clod y mae’n ei haeddu’n fawr ac un sy’n cydnabod y rôl arwyddocaol a chwaraeodd y rhanbarth yma yn y diwydiant llechi yn y DU ac o amgylch y byd yn ystod ein hanes diwydiannol.

“Heddiw, bydd yr enwebiad yn chwarae rhan enfawr wrth roi hwb pellach i’r diwydiant twristiaeth a gweithredu fel catalydd i fwy o fuddsoddiad ledled gogledd-orllewin Cymru.”

 

Meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi:

“Rwy’n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod angen mwy o ddealltwriaeth o arwyddocâd diwydiant llechi Cymru a’i rôl nid yn unig wrth lunio ein cymunedau, ein hiaith a’n diwylliant ond hefyd wrth roi to ar y byd ac allforio technolegau a phobl yn fyd-eang. Mae'r cam pwysig hwn ymlaen yn y broses yn newyddion da wrth i ni gyflwyno ein henwebiad yn ffurfiol i UNESCO.

“Nid yn unig y mae’r cais yn helpu i ddathlu a chydnabod ein diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw ond bydd hefyd yn agor y drws ar gyfer adfywio economaidd ar draws yr ardal, gan gynnwys y diwydiant chwarela presennol, sgiliau traddodiadol a chrefft ynghyd â cheisio creu twristiaeth gynaliadwy a chyfleoedd gwaith gwerth uchel yng Ngwynedd.”

 

Ochr yn ochr â’r gwaith o ddatblygu enwebiad mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau arian trwy gronfa Treftadaeth y Loteri Cynllun Lle Arbennig, Arloesi Gwynedd Wledig a Partneriaeth Eryri i weithio ar draws cymunedau chwarelyddol Gwynedd er mwyn ceisio grymuso, ail-gysylltu ac adfywio’r cymunedau hynny – trwy brosiect LleCHI. Mae’r gwaith yma yn cynnwys prosiectau i’w gwireddu yn yr ardaloedd  a thrwy waith dehongli, celf, digwyddiadau, arddangosfeydd a thrwy greu Llysgenhadon Ifanc a Llysgenhadon yn ein cymunedau a busnesau.

Am ragor o wybodaeth am y cais neu brosiect LleCHI, ewch i www.llechi.cymru neu ddilyn y diweddaraf ar y cyfrifon cyfryngau cymdeithasol: Twitter - @LlechiCymru; Facebook - @LlechiCymruWalesSlate; Instagram - @LlechiCymruWalesSlate