Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn – Dweud eich dweud am ddatblygu mewn cyfnod ymgynghori

Dyddiad: 30/01/2017

Mae Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn yn cydweithio i baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl ar y Cyd) sy’n cynnwys Môn a Gwynedd (ac eithrio Parc Cenedlaethol Eryri, sy’n dod o dan CDLl ar wahân). Ar ôl iddo gael ei fabwysiadu bydd y CDLl ar y Cyd yn disodli’r cynlluniau datblygu sy’n bodoli’n barod ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio i benderfynu pa ddatblygiadau fydd yn cael caniatâd cynllunio.

Cafodd y CDLl ar y cyd ei gyflwyno ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus ym mis Mawrth 2016, gyda dau Arolygydd annibynnol a gafodd eu penodi gan yr Arolygiaeth Cynllunio yn archwilio’r Cynllun. Mae’r broses Archwiliad Cyhoeddus, sy’n dal i fynd yn ei flaen, yn cynnwys ystyried tystiolaeth ysgrifenedig ac ar lafar gan y Cynghorau a gwrthwynebwyr. Cynhaliwyd cyfres o Wrandawiadau Cyhoeddus rhwng Medi a ddechrau Tachwedd 2016 i hwyluso gwaith yr Arolygwyr.

Yn ystod y Gwrandawiadau trafodwyd yr angen i wneud nifer o newidiadau arfaethedig i rai polisïau a rhai mapiau yn y Cynllun, er mwyn gwella ei eglurder, diweddaru’r Cynllun a sicrhau cysondeb gyda pholisi cynllunio cenedlaethol. Mae’r newidiadau arfaethedig yma yn amrywio o ddiweddariadau ffeithiol, i newidiadau sy’n mireinio testun polisïau, a newidiadau i statws rhai aneddleoedd ac adnabod safleoedd newydd ar gyfer datblygu.

Mae’r Cynghorau wedi paratoi Cofrestr o ‘Newidiadau Materion sy’n Codi’, ac yn cynnal ymgynghoriad hyd 9 Mawrth 2017ar y Newidiadau arfaethedig yma. Gall unrhyw barti â diddordeb gyflwyno sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, ond dylid pwysleisio mai dim ond y Newidiadau sy’n destun yr ymgynghoriad ac ni ellir cyflwyno sylwadau ar unrhyw ran arall o’r Cynllun. 

Bydd y Gofrestr o Newidiadau Materion sy’n Codi a dogfennau atodol ar gael i'w darllen yn  llyfrgelloedd cyhoeddus lleol, Siopau Gwynedd (Caernarfon, Dolgellau a
Phwllheli), prif swyddfa Cyngor Sir Ynys Môn yn Llangefni, swyddfa’r Uned Polisi Cynllunio ar y cyd ym Mangor, ac ar wefan y Cynghorau (www.gwynedd.llyw.cymru/cdll neu www.ynysmon.gov.uk/cdll). Bydd gofyn i unrhyw sylwadau gael eu darparu erbyn hanner nos ar 9 Mawrth 2017.

Gellir cyflwyno sylwadau ar-lein ar wefan y ddau gyngor, neu gellir eu hanfon ar e-bost i: polisicynllunio@gwynedd.llyw.cymru - mae ffurflen sylwadau ar gael ar wefan y ddau gyngor (www.gwynedd.llyw.cymru/cdll neu www.ynysmon.gov.uk/cdll) i helpu unigolion, grwpiau a mudiadau i gyflwyno’u sylwadau mewn modd strwythuredig.

Neu gellir cyflwyno sylwadau drwy eu hanfon at: Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd, Llawr 1af Swyddfeydd Cyngor Dinas Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor Gwynedd LL57 1DT. Ar ôl ystyried y sylwadau a gaiff eu cyflwyno, bydd yr Arolygwyr annibynnol yn penderfynu os oes angen cynnal gwrandawiadau ychwanegol cyn iddynt fynd ati i gwblhau eu hadroddiad am yr Archwiliad.

Os canfyddir bod y Cynllun yn gadarn yn amodol ar y newidiadau, bydd adroddiad yr Arolygwyr yn nodi argymhellion rhwymol. Bydd yn rhaid i’r Cynghorau fabwysiadu’r Cynllun fel yr argymhellwyd y dylid ei newid gan yr Arolygydd. Ar y cam yma dim ond rôl gwirio ffeithiau yn yr adroddiad drafft fyddai gan y Cynghorau.  Ni fyddai modd gwneud newidiadau neu beidio gweithredu ar argymhelliad yr Arolygwyr.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n arwain ar faes Cynllunio, y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Rydym yn ddiolchgar i’r aelodau o’r cyhoedd sydd eisoes wedi cyfrannu at y broses o ddatblygu’r Cynllun ar y cyd. Mae cwestiynau a chyfarwyddyd yr Arolygwyr yn golygu fod angen gwneud rhywfaint o newidiadau i’r Cynllun a byddem yn annog trigolion lleol sydd eisoes wedi cymryd rhan yn y broses, neu unrhyw un arall, i ddweud eu dweud yn y cam diweddaraf yma o’r broses. Dim ond trwy wneud hynny gall yr Arolygwyr fod yn sicr fod yr holl dystiolaeth ganddynt i gwblhau eu hadroddiad.”

Meddai’r Cynghorydd Richard Dew, Deilydd Portffolio Cynllunio Cyngor Sir Ynys Môn: “Mae Arolygydd yr Archwiliad Cyhoeddus bron a gorffen ei waith yn archwilio’r Cynllun cyfan. Dyma gyfle arall i drigolion lleol ac unrhyw un arall gyflwyno gwybodaeth iddo ac felly gyfrannu i'r broses o greu’r cynllun cynhwysfawr hwn.  Bydd hynny yn sicrhau bod safleoedd ar draws yr ardal yn cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy, a bod anghenion gwaith, tai, siopau, a chymunedau’n cael eu diwallu mewn modd trefnus.”