Yr iaith Gymraeg – Cyngor Gwynedd yn parhau i arloesi
Dyddiad: 28/10/2022
Mae Cyngor Gwynedd wedi mabwysiadau Polisi Iaith diwygiedig fydd yn sicrhau fod yr iaith Gymraeg yn parhau i gael blaenoriaeth ym mhob agwedd o waith y Cyngor.
Lluniwyd y polisi blaenorol yn 2016, ac ers hynny mae newidiadau mawr wedi bod yn y modd y mae’r Cyngor yn gweithredu ac yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd.
Diweddarwyd y polisi felly er mwyn adlewyrchu dulliau gweithredu cyfoes y Cyngor o ran hyrwyddo’r Gymraeg a chreu cyfleoedd i’r cyhoedd ddefnyddio gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws holl adrannau’r awdurdod.
Mae’r polisi yn sicrhau fod y Cyngor yn cwrdd â gofynion cenedlaethol ac hefyd yn cryfhau’r arweiniad i staff wrth iddyn nhw ddelio a gwahanol sefyllfaoedd o ddydd i ddydd ac wrth defnyddio mwy o dechnoleg i gynnig gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys:
- Arddel yr enw Cymraeg “Cyngor Gwynedd” yn unig wrth gyfeirio at ei hun yn ysgrifenedig ac fel rhan o’r ddelwedd gorfforaethol. Bydd y newidiadau hyn yn digwydd yn raddol dros gyfnod o amser, fel bo nwyddau, arwyddion ac ati yn cael eu hadnewyddu er mwyn osgoi costau ychwanegol;
- Blaenoriaethu’r gwaith o amddiffyn enwau lleoedd cynhenid Cymraeg;
- Sicrhau bod arweiniad cadarn i staff o ran darparu gwasanaethau digidol yn ddwyieithog er mwyn gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yn parhau i allu defnyddio’r Gymraeg, sut bynnag y byddant yn cysylltu gyda’r Cyngor.
Dywedodd y Cynghorydd Menna Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd a chyfrifoldeb dros yr iaith: “Mae ymrwymiad Cyngor Gwynedd i’r iaith Gymraeg, ac i sicrhau ei bod yn iaith fyw sy’n cael ei defnyddio ym mhob rhan o fywyd, yn destun balchder.
“Ers ei sefydlu yn 1996, mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn arwain y blaen o ran defnydd o’r iaith o fewn y byd gwaith ac i sicrhau fod trigolion yn derbyn gwasanaethau cyfrwng Cymraeg bob tro. Mewn sawl ffordd, mae’r Cyngor wedi mynd y tu hwnt i’n hymrwymiad statudol wrth ddarparu gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i bobl leol ac i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ar bob cyfle posib.
“Mae’r polisi hwn yn adeiladu ar y seiliau cadarn hyn ac yn adlewyrchu newidiadau mewn cymdeithas a thechnoleg. Rydw i’n edrych ymlaen i weld ffrwyth y datblygiad hwn dros y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”