Ymgynghoriad cyhoeddus premiwm treth cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor

Dyddiad: 03/10/2022

Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar sut i ymateb i'r newid deddfwriaethol sy'n caniatáu i'r Cyngor gynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar Ail Gartrefi ac Eiddo Gwag Hirdymor ymhellach.

Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw yn unig nac yn brif gartref person ac sydd wedi ei dodrefnu'n sylweddol. Mae hyn yn gallu cynnwys eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau tymor byr sy’n ddarostyngedig i Dreth Cyngor ac sydd ddim yn gymwys am eithriadau statudol. Diffinnir eiddo wag hir dymor fel eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ei dodrefnu i raddau helaeth am gyfnod di-dor o flwyddyn o leiaf.

Ym Mawrth 2022, rhoddodd Llywodraeth Cymru y grym i awdurdodau lleol i gynyddu uchafswm y Premiwm Treth Cyngor hyd at 300%, o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Mae perchnogion eiddo o’r fath yng Ngwynedd eisoes wedi bod yn talu premiwm o 100% ers 1 Ebrill 2021, a 50% rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2021.

Cyn i’r Cyngor Llawn wneud eu penderfyniad ar raddfa’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2023/24, ac ers y newid yn y ddeddfwriaeth, mae’r Awdurdod yn awyddus i glywed barn y cyhoedd am y posibilrwydd o gynyddu’r dreth o ganran uwch na’r lefel bresennol o 100%.

Mae’r ymgynghoriad cyhoeddus yn agored erbyn hyn a bydd gan y cyhoedd tan 28 Hydref i gyflwyno eu sylwadau a’u barn. Bydd canlyniadau’r ymarferiad wedyn yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a Chabinet y Cyngor cyn i’r Cyngor Llawn ddod i benderfyniad terfynol ar 1 Rhagfyr 2022 ar lefel y Premiwm Treth Cyngor ar gyfer 2023/24.

Meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd:

“Fel Cyngor, rydym wedi bod yn codi Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag hir-dymor ers 2018. Rydym yn falch o’r ffaith bod yr arian sydd wedi’i gasglu wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu cartrefi fforddiadwy ac addas i bobl leol.

“Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru mae gennym yr hawl i gynyddu’r premiwm ymhellach. Cyn i’r Cyngor Llawn ddod i benderfyniad ar 1 Rhagfyr, rydym yn cynnal yr ymgynghoriad cyhoeddus yma er mwyn casglu barn y cyhoedd. Bydd hyn yn sicrhau y bydd gan bob Cynghorydd yr holl wybodaeth berthnasol, gan gynnwys adborth y cyhoedd ar effaith posib unrhyw newid ar gymunedau’r sir.”

“Rydym felly yn annog pawb sydd â barn am y maes pwysig yma i fanteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud.”

Gellir cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein neu ar bapur:

  • Ewch i wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/ymgynghoriadpremiwm Cofiwch fod mynediad rhad ac am ddim i’r we ar gael ar gyfrifiaduron cyhoeddus yn holl llyfrgelloedd y sir.
  • Mae copïau papur ar gael yn eich llyfrgell leol neu yn Siop Gwynedd yn swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon, Dolgellau a Phwllheli.
  • Gallwch hefyd ffonio 01286 682682 i ofyn am gopi papur o’r holiadur ymgynghori drwy’r post.