Llai na wythnos i fynd cyn cau ymgynghoriad Premiwm Treth Cyngor

Dyddiad: 24/10/2022

Mae gan y cyhoedd hyd nes 28 Hydref i ddweud eu dweud ar opsiynau i gynyddu ymhellach y Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor yng Ngwynedd.

Dyma gyfle i bobl roi eu barn ar sut dylai Cyngor Gwynedd ymateb i'r newid deddfwriaethol sy'n caniatáu cynyddu’r Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor ymhellach.

Mae’r ymarferiad yn dilyn newid yn y ddeddf ym Mawrth 2022 pryd rhoddodd Llywodraeth Cymru y grym i awdurdodau lleol i gynyddu uchafswm y Premiwm Treth Cyngor hyd at 300%, o 1 Ebrill 2023 ymlaen. Ers 1 Ebill 2021 mae perchnogion ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor yng Ngwynedd yn talu premiwm o 100%, a chyn hynny 50% rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2021.

Meddai’r Cynghorydd Ioan Thomas, Aelod Cabinet Cyllid Cyngor Gwynedd: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cymryd ychydig funudau i ddweud eu dweud ar y mater pwysig yma. Os nad ydych eisoes wedi cymryd rhan, mae gennych hyd at 28 Hydref i lenwi’r holiadur a byddwn yn eich hannog i wneud hynny.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi bod yn codi Premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi a thai gwag hir-dymor ers 2018 ac yn buddsoddi’r arian godwyd mewn cynlluniau i ddarparu cartrefi fforddiadwy ac addas i bobl leol.

“Mae gennym bellach yr hawl i gynyddu’r premiwm hyd at 300%, yn dilyn newid mewn deddf gwlad. Rydym yn awyddus i glywed barn y cyhoedd er mwyn sicrhau fod gan bob Cynghorydd yr holl wybodaeth berthnasol – gan gynnwys adborth preswylwyr ar effaith posib unrhyw newid ar gymunedau’r sir – cyn iddynt bleidleisio ar y mater yng nghyfarfod llawn y Cyngor ar 1 Rhagfyr.

“Felly, os nad ydych wedi llenwi’r holiadur yn barod, ac mae gennych farn ar y pwnc, yna manteisiwch ar y cyfle cyn i’r ymgynghoriad gau.”

Gellir cymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein neu ar bapur:

 

  • Ewch i wefan: www.gwynedd.llyw.cymru/ymgynghoriadpremiwm Cofiwch fod mynediad rhad ac am ddim i’r we ar gael ar gyfrifiaduron cyhoeddus yn holl llyfrgelloedd y sir.
  • Mae copïau papur ar gael yn eich llyfrgell leol neu yn Siop Gwynedd yn swyddfeydd y Cyngor yng Nghaernarfon, Dolgellau a Phwllheli. Cofiwch bydd angen gadael digon o amser i ddychwelyd eich holiadur erbyn y dyddiad cau ar 28 Hydref.
  • Gallwch hefyd ffonio 01286 682682 i ofyn am gopi papur o’r holiadur ymgynghori drwy’r post. Cofiwch ganiatáu digon o amser i’r holiadur eich cyrraedd drwy’r post ac i chi fedru ei ddychwelyd erbyn 28 Hydref, gan gymryd i ystyriaeth unrhyw weithredu diwydiannol allai effeithio'r gwasanaeth post.

 

Nodyn:

Diffinnir ail gartref fel annedd nad yw yn unig nac yn brif gartref person ac sydd wedi ei dodrefnu'n sylweddol. Mae hyn yn gallu cynnwys eiddo sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer llety gwyliau tymor byr sy’n ddarostyngedig i Dreth Cyngor ac sydd ddim yn gymwys am eithriadau statudol.

Diffinnir eiddo wag hir dymor fel eiddo sydd wedi bod yn wag a heb ei dodrefnu i raddau helaeth am gyfnod di-dor o flwyddyn o leiaf.