Lansio mapiau i hybu'r Gymraeg

Dyddiad: 05/10/2022
Ysgol Sarn Bach
Mae dau fap newydd wedi’u lansio gan Uned Iaith Cyngor Gwynedd er mwyn hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn y sir.

 

Map Gweithgareddau a Chlybiau Cymunedol Gwynedd

Y cyntaf ywMap Gweithgareddau a Chlybiau Cymunedol Gwynedd sydd ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: www.gwynedd.llyw.cymru/mapgweithgareddauiaith

Mae hwn yn bwynt gwybodaeth hwylus i’r cyhoedd am weithgareddau, cymdeithasau a chlybiau ar gyfer pob oed a diddordeb ar draws y sir, sydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg fel rhan naturiol o fywyd pob dydd.

Meddai Gwenllian Williams, Ymgynghorydd Iaith Cyngor Gwynedd:  “Rydym ni’n lwcus iawn yma yng Ngwynedd bod cymaint o wirfoddolwyr yn trefnu a chynnal gweithgareddau rheolaidd yn ein cymunedau, a hynny yn gyfan gwbl naturiol drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae’r grwpiau a’r clybiau yma yn allweddol i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw gymunedol. 

“Mae’r map yma yn ffordd o gydnabod a helpu rhannu gwybodaeth am y grwpiau a clybiau yma a gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod lle i ddod o hyd i wahanol weithgareddau o fewn eu cymunedau.”

Bydd posib i unrhyw grŵp, clwb neu gymdeithas sydd yn cyfarfod yn rheolaidd gofnodi eu gweithgaredd a’u lleoliad cyfarfod ar y map drwy lenwi holiadur. Bydd y wybodaeth yn ymddangos ar y map cyhoeddus, fel bod modd i’r cyhoedd chwilio am wybodaeth yn ôl ardal neu math o weithgaredd.

Mae’r Cyngor yn gwahodd unrhyw un sydd yn gyfrifol am grŵp neu glwb o fewn eu cymuned –  boed yn glwb chwaraeon o unrhyw fath, cymdeithas lenyddol neu hanes, cangen Merched y Wawr, clwb darllen neu glwb gerdded –i roi eu manylion ar y map drwy lenwi’r ffurflen sydd i’w gael ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/mapgweithgareddauiaith. Gall y clwb neu weithgaredd fod yn addas ar gyfer unrhyw oed, cyn belled ei fod yn cael ei gynnal yn rheolaidd yn hytrach na digwyddiadau unigol.

 

Map Enwau Lleol

Mae’r ail fap, Map Enwau Lleol ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd hefyd: www.gwynedd.llyw.cymru/mapenwaulleoedd

Mae hwn wedi’i greu er mwyn creu cofnod byw o enwau llafar, anffurfiol ar leoliadau a nodweddion daearyddol ledled Gwynedd. Mae’n rhan o waith Prosiect Enwau Llefydd Cynhenid y Cyngor, ac yn ymgais i greu adnodd hawdd ei ddefnyddio, fydd yn galluogi grwpiau, ysgolion ac unigolion i roi ar gof a chadw rhai o’r enwau unigryw hynny sydd yn bodoli ar lawr gwlad.

Y ffordd mae’r map yn gweithio yw bod modd ychwanegu nodweddion i’r map (e.e. cae, stryd, adeilad ac yn y blaen) gan gynnwys disgrifiad, pwt o wybodaeth gefndirol a hyd yn oed llun. Bydd unrhyw gofnodion wedyn yn ymddangos ar y map, a’u leoliad wedi eu marcio gyda dotiau gwahanol liw yn ôl y math o nodwedd.

Mae’r map ar gael i bawb ei weld ar wefan y Cyngor, ond ar hyn o bryd dim ond trwy gais y bydd modd cyfrannu ar y cychwyn. Gellir gwneud hynny drwy gysylltu gyda’r Uned Iaith ar iaith@gwynedd.llyw.cymru neu 01286 679629/679469.

Meddai Mei Mac, y Swyddog Prosiect Enwau Lleoedd Cyngor Gwynedd:  “Mae nifer fawr o hen enwau ar strydoedd, ardaloedd, nodweddion daearyddol, pontydd ac yn y blaen nad ydynt ar fapiau swyddogol, ond eto maen nhw’n cael eu defnyddio ar lafar bod dydd o fewn ein cymunedau. Maen nhw’n enwau difyr ac fel unrhyw enw lle yn cynnwys cyfeiriadaeth gyfoethog o hanes a threftadaeth leol.” 

Gyda phwyslais yn y Cwricwlwm newydd i Gymru ar ddysgu am yr ardal leol, gall y map hwn hefyd fod yn adnodd gwerthfawr i athrawon er mwyn cynnal gweithgareddau o fewn y dosbarth a gyda’r gymuned. Yn ddiweddar, aeth disgyblion Ysgol Sarn Bach ati i gynnal prosiect i dreialu’r map.

Meddai Nina Williams, Pennaeth Ysgol Sarn Bach: “Mae plant Ysgol Sarn Bach wedi cael budd mawr o weithio ar brosiect “Enwau ar Fap” ac maent wedi mwynhau yn ofnadwy wrth ddysgu am eu treftadaeth leol. Mae llawer iawn o enwau lleol ar gôf a chadw plant yr ysgol o`i herwydd ac mae bod yn ran o’r prosiect yma wedi rhoi ymdeimlad go iawn o hunaniaeth i’r plant.”

Meddai Menna Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg: “Mae'r ddau fap yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn hybu defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau. Bydd y map enwau yn gyfle i ni geisio diogelu enwau llefydd llafar Cymraeg a sicrhau bod nhw ar gof a chadw am genedlaethau i ddod.

“Bydd y map gweithgareddau Cymraeg yn helpu pobl Gwynedd i ddarganfod gweithgareddau cyfrwng Cymraeg amrywiol sydd ar gael led led y sir o wersi syrffio i gymdeithas hanes leol. Dw i'n annog pawb i gyfrannu gwybodaeth i'r mapiau a’u defnyddio.”

 

Llun: Mei Mac, y Swyddog Prosiect Enwau Lleoedd Cyngor Gwynedd yn dangos y map Enwau Lleol newydd i ddisgyblion Ysgol Sarn Bach.