Ieuenctid Gwynedd ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid
Dyddiad: 18/10/2022
Mae Ieuenctid Gwynedd wedi cyrraedd rhestr fer dwy wobr genedlaethol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid eleni, a hynny ar gyfer:
- Arddangos rhagoriaeth mewn cynllunio a chyflwyno partneriaeth (lleol)
- Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol
Mae'r Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn gyfle i gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid a'r rhai sy'n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.
Enwebwyd Ieuenctid Gwynedd gan bobl ifanc Gwynedd am y wobr Arddangos Rhagoriaeth mewn Cynllunio a Chyflwyno Partneriaeth am eu gwaith ar gyfer yr Ŵyl Les. Cafodd y digwyddiad hwn ei gynnal dros gyfnod o wythnos i Wynedd gyfan a’i fwriad oedd i ddod â sefydliadau at ei gilydd i hybu iechyd a lles meddyliol a chorfforol ymhlith pobl ifanc.
Ar gyfer gwobr Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol enwebwyd Andrew Owen, Gweithiwr Ieuenctid gan bobl ifanc y sir.
Dywedodd Andrew: “ Rwyf yn hynod falch o gael fy enwebu ar gyfer y wobr hon gan bobl ifanc Gwynedd. Rwyf yn falch o allu helpu cefnogi pobl ifanc i ddatblygu fel unigolion, rhoi addysg anffurfiol yn yr ysgol a rhedeg prosiectau wedi ei arwain gan bobl ifanc yn y gymuned ”
Mae Andrew yn gweithio yn Ysgol Botwnnog ac Ysgol Glan y Môr yn ogystal ag yn y gymuned yn ardal Dwyfor. Am fwy o wybodaeth am yr hyn mae Andrew yn ei wneud, dilynwch ei dudalen Facebook <https://www.facebook.com/AndrewOwenGCI>.
Gallwch ddysgu mwy am y gwobrau Gwaith Ieuenctid yma Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid | LLYW.CYMRU.
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau Ieuenctid Gwynedd, dilynwch Ieuenctid Gwynedd ar Facebook , Twitter ac Instagram.