Cydnabod llwyddiant Tirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru

Dyddiad: 07/10/2022
LLECHI

Yr wythnos hon cydnabuwyd llwyddiant arysgrifio Tirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru’n Safle Treftadaeth Byd yn 2021 yn Arsyllfa Jodrell Bank, Sir Caer ac ar lawr Senedd Cymru.

Arysgrifwyd Jodrell Bank yn Safle Treftadaeth Byd Unesco yn 2019 a dyma gartref Cyfarfod Blynyddol World Heritage UK (WH:UK) rhwng 3 a 4 Hydref 2022.

Estynnwyd croeso cynnes i Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Tirlun Llechi Gogledd Orllewin Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Wigley yn ogystal â’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned o Gyngor Gwynedd, y Cynghorydd Nia Jeffreys yn ystod y digwyddiad a chydnabuwyd y llwyddiant o arysgrifio’r tirlun eithriadol a’r diwydiant pwysig hwn a roddodd to ar y byd.

Ar lawr y Senedd, cafwyd cydnabyddiaeth gan Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i’r cydweithio wrth sicrhau’r dynodiad pwysig hwn i warchod y tirlun llechi ac hefyd y cyfleon pwysig all ei gynnig i gymunedau lleol.

Mewn ymateb i’r datganiadau, dywedodd yr Arglwydd Dafydd Wigley:

“Roedd mynychu Cynhadledd Flynyddol WH:UK yn gyfle i ni ddysgu am safleoedd treftadaeth byd eraill Prydain a thu hwnt a’r prif faterion sy’n ein hwynebu heddiw – yn cynnwys newid hinsawdd a’r argyfwng ynni a chostau byw. Bu i ni glywed gan gyn-gyfarwyddwr Canolfan Treftadaeth Byd Unesco ymysg nifer o siaradwyr gwadd eraill.

“Mae cael rhannu llwyfan efo cymaint o safleoedd nodedig ym Mhrydain ac yn rhyngwladol yn dangos mor ddylanwadol y bu ein diwydiant llechi – nid yn unig wrth greu ein tirlun trawiadol, ein cymunedau unigryw a’r dechnoleg cludo llechi a rannwyd yn fyd-eang; ond hefyd y cyfraniad hanfodol wnaeth ein llechi wrth roi to ar y chwyldro diwydiannol yn y byd.

“Roedd gweld y buddsoddiad eithriadol o £24m mae Jodrell Bank wedi ei dderbyn i greu canolfan ddehongli newydd yn syfrdanol ac yn dangos potensial dynodiad o’r fath wrth ddatblygu prosiectau a denu buddsoddiad gan y Llywodraeth.

 

“Mae angen i ni gydweithio efo Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’n partneriaid i fanteisio ar y platfform a’r proffil yma er mwyn denu buddsoddiad i’n cymunedau a’n busnesau a chodi ymwybyddiaeth o Wynedd – ein cyfraniad i’r byd yn y gorffennol a’r cyfraniad pwysig y gall yr ardal yma ei gynnig i’r byd heddiw; yn nhermau arloesi, mentro, twristiaeth cynaliadwy a chynnal cymunedau a iaith.”

 

Yn ôl y Cynghorydd Nia Jeffreys, mae disgwyliadau ar y Cyngor yn naturiol yn troi at weithredu a gwneud gwahaniaeth i’n cymunedau a’n busnesau:

“Yn dilyn cyfnod datblygu mor hir gyda llawer o ymgynghori a gweithgareddau, mae nifer rŵan eisiau gweld sut mae Gwynedd am gael budd o’r dynodiad Treftadaeth Byd.

“Mae llawer o waith wedi bod yn digwydd i weithredu ein Cynllun Rheoli ac i sicrhau ein bod yn rheoli’r safle treftadaeth byd yn gynaliadwy.

“Rydym wedi sicrhau £150,000 gan Lywodraeth Cymru i wella dealltwriaeth o’n stori llechi ar draws yr ardal a chyflwyno UN safle treftadaeth byd a rwy’n gobeithio y gwelwn ni’r wybodaeth yma’n cael ei osod ar draws yr ardal yn y misoedd nesaf.

“Mae’r Cyngor wedi cyflwyno ceisiadau ariannol pellach i Lywodraeth y DU i gefnogi ein gwaith ac rydym yn datblygu prosiect cyffroes trwy nawdd y Gronfa Loteri Treftadaeth gyda’n holl bartneriaid a chymunedau i gefnogi adfywio ein bröydd llechi a dealltwriaeth o’n stori eithriadol.

“Mae ein partneriaid hefyd yn datblygu ceisiadau cyffroes i fanteisio ar y cyfleon sydd wedi codi yn sgil y dynodiad a hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth.”

Llun:

Ch-Dd: Cynrychiolwyr o Wynedd yn Arsyllfa Jodrell Bank: Cyng. Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Cyngor Gwynedd; Yr Arglwydd Dafydd Wigley, Cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Llechi Cymru; Dr Kate Roberts, Pennaeth Yr Amgylchedd Hanesyddol, Cadw, Llywodraeth Cymru