Busnesau yn elwa o Grant Gwella Eiddo Canol Trefi Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 07/10/2022
Becws Islyn

Mae £500,000 wedi ei fuddsoddi mewn bron i 40 busnes yng Ngwynedd i’w helpu i wella eu hedrychiad, diolch i Grant Gwella Eiddo Canol Trefi a weinyddir gan Gyngor Gwynedd.

Sefydlwyd y grant – a gefnogir gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru – i gefnogi busnesau yng nghanol trefi a dinasoedd i ddatblygu ac uwchraddio eu heiddo. Ei brif bwrpas yw gwneud gwahaniaeth gweladwy i’n trefi a’n dinasoedd a’u gwneud yn lefydd braf i fyw, gweithio ac hamddena ynddynt.

Un o fusnesau Gwynedd sydd wedi manteisio ar y grant i drawsnewid yr adeilad ydi Becws Islyn, Pwllheli. 

Meddai Geraint Jones, perchennog y siop a’r becws: “Fel busnes lleol rydym yn ddiolchgar iawn o dderbyn arian o’r gronfa Grant Gwella Eiddo Canol Trefi er mwyn adnewyddu ein hadeilad ar Y Maes ym Mhwllheli.

“Mae’n bwysig i bobl lleol ac i ymwelwyr bod canol y dref yn aros yn le bywiog a deniadol. Dwi’n annog unrhyw un sydd efo eiddo yng nghanol trefi i wneud defnydd o’r gefnogaeth sydd ar gael.”

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd a’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Economi:

“Rydw i’n hynod o falch o glywed fod busnesau Gwynedd yn manteisio ar y cyfleoedd gwych hyn er mwyn sicrhau fod ansawdd cynnyrch a gwasanaeth lleol yn cael ei adlewyrchu yn sut mae’r stryd fawr yn edrych.

“Os oes busnesau lleol yng Ngwynedd sydd heb fanteisio ar y cynlluniau sydd ar gael, mi fyddwn yn galw arnyn nhw i gymryd golwg ar y cynlluniau sydd ar gael i’w helpu. Mae pob hwb yn helpu i annog pobl i gefnogi busnesau lleol.”

Tra bod y Grant Gwella Eiddo Canol Tref wedi ei ymrwymo'n llawn, mae cyfleoedd pellach i fusnesau lleol sydd ag eiddo angen ei wella gael cymorth gan Gyngor Gwynedd.  Ar hyn o bryd mae Cronfa Benthyciadau Canol Tref di-log ar gael i berchnogion eiddo o'r fath, sydd wedi'i leoli yng nghanol trefi Gwynedd. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Gwynedd: Cronfa benthyciadau canol tref (llyw.cymru)