Argyfwng ariannol Prydain 'yn rhoi Cyngor Gwynedd mewn sefyllfa waeth nag erioed'

Dyddiad: 19/10/2022
Mae polisïau Llywodraeth Prydain, yn ogystal â ffactorau ariannol rhyngwladol, yn creu anawsterau mwy dyrys nag erioed i gynghorau, ac nid yw Gwynedd yn eithriad.

Dyna yw neges glir a diamwys adroddiad cyllid a gaiff ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd ar 25 Hydref.

Mae’r adroddiad yn esbonio bod cyfuniad o amgylchiadau wedi arwain at ganlyniadau trychinebus i Gyngor Gwynedd. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Chwyddiant o 11% sy’n debygol o godi dros y misoedd nesaf;
  • Argyfwng costau byw a fydd yn arwain at Wynedd yn gwario tua £6 miliwn yn fwy ar wasanaethau digartrefedd y flwyddyn hon yn unig;
  • Ffactorau fel tebygolrwydd o dywydd eithafol a salwch y gaeaf hwn.

Er bod y sefyllfa’n dal i fod yn aneglur ac y gall newid yn gyflym, mae’r adroddiad yn rhagweld bod Cyngor Gwynedd yn wynebu diffyg o £7.1 miliwn y flwyddyn ariannol hon (2022/23). Fodd bynnag, y wir broblem yw bod y Cyngor yn debygol o wynebu diffyg o £18.5 miliwn yn 2023/24.

Meddai’r Aelod Cyllid ar Gabinet Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Ioan Thomas:

“Nid gor-ddweud o gwbl ydi rhybuddio bod yr amgylchiadau sydd wedi cael eu creu gan Lywodraeth Prydain yn golygu bod cynghorau ledled Cymru’n wynebu pwysau ariannol sy’n sylweddol waeth na’r rheini a brofwyd yn ystod cyfnod cyni ariannol y ddegawd ddiwethaf, a’r argyfwng Covid diweddar.

“Byddwn yn lobïo Llywodraeth Prydain yn galed i weithredu a cheisio’u cael nhw i sylweddoli’r niwed anferthol y bydd y sefyllfa hon yn ei gael ar ein cymunedau. Yn y cyfamser, does gennym ddim dewis ond paratoi ar gyfer y gwaethaf, a fydd yn debygol o olygu y byddwn ni’n cael ein gwthio i gornel a’n gorfodi i gyfuno toriadau sylweddol mewn gwasanaethau â chodiadau sylweddol mewn treth cyngor o fis Ebrill 2023 ymlaen.”

Ychwanegodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Dyma’r rhagolygon ariannol mwyaf llwm dw i erioed wedi eu gweld yn fy amser mewn llywodraeth leol. Mae graddfa anferthol y diffyg yn anodd ei amgyffred. Wrth iddo ddod ar ddiwedd yr argyfwng Covid a degawd o arbedion ariannol anferthol mae Cyngor Gwynedd eisoes wedi eu gwneud, allai’r amseru ddim bod yn waeth.

“O drafodaethau yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dw i’n gwybod bod holl gynghorau Cymru’n wynebu diffygion tebyg neu fwy, gyda chyfanswm y pwysau ar gynghorau ar draws Cymru oddeutu £500 miliwn.

“Yn wyneb y cyd-destun hwn, dim ond newid sylfaenol mewn cyfeiriad gan Lywodraeth Prydain a fydd yn galluogi cynghorau i osgoi cael eu gorfodi i wneud toriadau eithafol ynghyd â chodiadau mawr mewn treth cyngor. Unwaith eto, llywodraeth leol sy’n talu’r pris am benderfyniadau’r llywodraeth ganolog.

“Bydd Gwynedd yn uno gyda chydweithwyr ar draws llywodraeth leol i roi hynny ag sy’n bosibl o bwysau ar San Steffan i ryddhau’r cyllid mae arnom ei angen i ddiogelu gwasanaethau hanfodol i’n cymunedau, yn enwedig ein trigolion mwyaf bregus.

“Hyd yn oed os byddwn ni’n llwyddo, mi fyddwn ni, yn anffodus, yn dal i wynebu her fawr i gyflawni ein dyletswydd gyfreithiol i osod cyllideb gytbwys i’r cyngor ar gyfer 2023/24.

“Yr unig gam gweithredu cyfrifol y gallwn ni ei gymryd ar hyn o bryd yw manteisio i’r eithaf ar y cyfnod byr o amser sydd ar gael a pharatoi’n ofalus am yr amserau hynod galed a’r penderfyniadau anodd sydd o’n blaenau.”

Nodiadau:

Er gwaethaf y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi datgan y bydd cynghorau ar draws Cymru yn derbyn 3.5% ychwanegol ar gyfartaledd yn y grant maent yn ei dderbyn tuag at gost cyllid gwasanaeth cyhoeddus yn 2023/24 a 2.4% ychwanegol yn 2024/25, rhagwelir y bydd Gwynedd yn dal i wynebu diffyg ariannol o £18.5 miliwn yn 2023/24 a diffyg o £22.3 miliwn yn 2024/25. Mae gan y Cyngor dri dewis ar gyfer lleihau’r diffygion ariannol hyn:

  • Cynyddu treth cyngor – bydd pob 0.5% o gynnydd mewn treth cyngor yn arwain at leihad o £400,000 yn y diffyg;
  • Cyflawni arbedion ychwanegol y tu hwnt i’r £33.4 miliwn a gyflawnwyd ers 2015 a thoriadau mewn gwasanaethau;
  • Cynyddu’r taliadau mae’r Cyngor yn eu codi ar drigolion am wasanaethau penodol.

Bydd yr holl ddewisiadau hyn yn cael eu hystyried yn ofalus dros y misoedd nesaf sy’n arwain at Gyfarfod y Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2023 pan fydd Cyngor Gwynedd yn gosod ei gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24.