Arddangosfeydd newydd ar agor yn Storiel, Bangor
Dyddiad: 31/10/2022
Mae dwy arddangosfa newydd a difyr wedi agor yn Storiel, Bangor sy’n dod ag elfennau Cymreig, Jamaican a diwylliannau eraill ynghyd o fewn persbectif yr arlunwyr Audrey West a Gareth Griffith.
Mae gan Audrey a Gareth gysylltiad cryf gyda Jamaica. Ganwyd Audrey yno a daeth i'r DU yn 1962 fel rhan o'r 'Genhedlaeth Windrush' a bu Gareth yn dysgu celf yn Jamaica.
Yn yr arddangosfa A Cappella Storiel: Caneuon Prynedigaeth, mae gwaith Audrey yn fynegiant creadigol sy’n archwilio gwrthdaro o amgylch hanes a pherthynas, atgof a phoen, crefydd a llawenydd. Mae paentiadau Audrey yn chwareus, therapiwtig, a hefyd yn archwiliad disgybledig o storiâu personol a diwylliannol.
Eglurodd Audrey: “Fy uchelgais yw adeiladu cadeirlan o goffadwriaeth i'r dioddefant a'r fuddugoliaeth dros y fasnach gaethwasiaeth trawsatlantig, tra'n cwestiynu'r eiconau diwylliannol. Yn y cyfamser, rwyf yn braslunio ar gyfer y darlun dychmygol yma gan ddefnyddio'r gwagleoedd sydd ar gael.
“Yn yr oriel hon yn Storiel rwyf yn bwriadu creu synnwyr o gapel gydag amgylchedd myfyriol ac ymdeimlad o dawelwch, ynghyd ag adrodd am y gwirionedd. Mae'r gwaith aml-gyfrwng yn cynnwys portreadau, morluniau, gwrthrychau a ganfuwyd a recordiadau sain sy'n symbolau huawdl o deithiau personol a thorfol."
Yn yr arddangosfa Ystafell Artist,mae Gareth, sydd yn enillydd ar y cyd Gwobr Paentio BEEP eleni, yn treiddio i waith diweddar o’r stiwdio a’r ymarfer o archwilio parhaus; o’r gofod mewnol ac allanol a dathliad o’r broses artistig.
Meddai Gareth am ei arddangosfa: “Mae hyn am fy mywyd a’m profiad. Beth sydd wedi digwydd i mi. Beth yw fy mhrofiad. Beth arall sydd yna? Ceisiaf wneud i bethau weithio. Mae hefyd yn fater o dalu teyrnged.”
Bydd yr arddangosfeydd ar agor yn Storiel, Bangor tan ddiwedd y flwyddyn.
Mae Storiel, Bangor ar agor dydd Mawrth – Sadwrn, 11.00am – 5.00pm. Am fwy o wybodaeth ewch i www.storiel.cymru neu ffoniwch 01248 353 368
Lluniau:
1 – Audrey West yn ei arddangosfa ‘A Cappella Storiel: Caneuon Prynedigaeth.’
2 – Gareth Griffith yn ei arddangosfa ‘Ystafell Artist.’