Ymgyrch Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru

Dyddiad: 18/10/2021

MAE ymgyrch newydd a lansiwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru yn gobeithio annog mwy o bobl i fabwysiadu'r plant hynny sy'n aros hiraf.

Ar hyn o bryd mae 119 o blant yn aros i gael eu mabwysiadu yng Nghymru, gyda 29 o'r plant hynny yn aros am naw mis neu fwy.

I fechgyn, grwpiau brodyr a chwiorydd, plant dros dair oed, a'r rhai sydd â hanes cynnar cymhleth, gall yr aros i ddod o hyd i gartref am byth bara am amser hir.

Ond mae ymgyrch newydd a lansiwyd yn ystod yr Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (18-23 Hydref) eisiau newid hynny i gyd trwy chwalu’r myth bod babanod a merched yn haws i'w mabwysiadu

Er mwyn agor calonnau a meddyliau darpar fabwysiadwyr i'r plant hynny sy'n aros i ddod o hyd i deulu ar hyn o bryd, bydd #DewisTeulu yn clywed gan rieni o bob cwr o Gymru am realiti mabwysiadu plentyn, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, neu os ydyn nhw'n rhan o grŵp siblingiaid.

Mae Julia a'i gŵr wedi bod gyda'i gilydd ers eu harddegau. Erbyn eu tridegau cynnar pan nad oeddent wedi beichiogi’n naturiol, fe wnaethant benderfynu mabwysiadu yn lle ceisio am deulu trwy IVF. Ar y pryd, ni allai eu cartref dwy ystafell i fyny grisiau a dwy ystafell i lawr dderbyn mwy nag un plentyn felly ar ôl mabwysiadu eu mab yn 4 oed yn 2011 trwy Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, fe wnaethant fabwysiadu eu merch bum mlynedd yn ddiweddarach.

“Rhaid i mi gyfaddef ein bod ni’n eithaf naïf pan ddechreuon ni’r broses, roeddwn i’n meddwl y byddent yn cwrdd â ni, yn gweld pa mor hyfryd ydyn ni a jest dweud ie. Doedd o ddim mor syml â hynny.

“Mae ein diwrnod cyntaf gyda'n mab yn sicr yn un i'w gofio. Y diwrnod y symudodd i mewn roedd yn rhedeg o gwmpas y lle yn gyffrous ac fe faglodd o a syrthio i gornel y bwrdd coffi a thorri o dan ei lygad. Fe wnes i ffonio’r gwasanaeth ar unwaith ac ar ôl rhoi’r holl fanylion iddyn nhw, roedd yna saib a dywedodd y gweithiwr cymdeithasol, “ai dim ond heddiw ddaeth o i fyw gyda chi?” Doeddwn i ddim yn gwybod lle i roi fy hun!

“Roedd ein diwrnod cyntaf gyda'n merch ychydig yn llai dramatig ond heb fod yn llai emosiynol. Roeddwn ni’n chwarae ac eisteddodd ar ar lin fy ngŵr a chyhoeddi ‘fi’n eistedd ar lin dada!’ Roedd yn foment hyfryd.

“Mae gan y ddau blentyn eu hanawsterau, arferai ein mab ddangos ei ddicter trwy ruo yn wynebau pobl. Fe wnaethon ni feddwl unwaith i ni fabwysiadu'r ail dro bod gennym bopeth dan reolaeth, ond fe ddioddefodd ein merch esgeulustod eithafol a hi oedd y plentyn bach mwyaf annibynnol i mi ei gyfarfod erioed. Nid oedd popeth a weithiodd gyda'n mab yn gweithio gyda hi. Roedd yn rhaid i ni ei dysgu ei bod hi'n iawn i ni fod wrth y llyw a gofalu amdani.

“Mae'n dorcalonnus bod plant mabwysiedig yn mynd trwy gymaint, ond rydyn ni wedi cael cefnogaeth trwy'r amser. Mae llawer o'n ffrindiau wedi mabwysiadu, ac mae llawer o ffrindiau ein plant wedi cael eu mabwysiadu hefyd. Fe wnaethon ni hefyd fynychu therapi chwarae gyda’r ddau ohonyn nhw pan oedden nhw'n ifanc i'w helpu i brosesu'r emosiynau cudd oedd ganddyn nhw, ac rydyn ni'n dal i ddod â rhai ohonyn nhw allan o dro i dro pan fydd ei angen.

“Mae ein mab yn ei arddegau rŵan ac mae ganddo ddealltwriaeth dda o'i fywyd sy'n helpu ei chwaer. Rydyn ni'n siarad am sut roedd yn teimlo mewn rhai sefyllfaoedd pan rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n gwrando, felly mae hi'n gwybod nad yw hi ar ei phen ei hun, bod ganddi gysylltiad a rennir gyda'i brawd, ac nad ydyn ni'n mynd i adael pan fydd yr amseroedd yn anodd.

“Rydyn ni'n siarad yn agored â'n plant am eu mabwysiadu a'u teuluoedd biolegol. Nid ydym am iddynt guddio’r emosiynau hynny. Mae'n hawdd meddwl, yn enwedig gyda phlant ifanc, nad ydyn nhw'n cofio, neu y byddan nhw'n tyfu allan ohono. Rydyn ni'n eu caru gymaint ond yr hyn a'n trawodd fwyaf oedd nad ydyn nhw'n gwybod sut i gael eu caru ac rydyn ni wedi gorfod eu dysgu sut i dderbyn cariad.”

Dywedodd Suzanne Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru: “Rydym yn gwybod o ymchwil a gynhaliwyd o fewn gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru bod mythau mewn perthynas ag oedran a rhyw yn parhau i fodoli; mae rhai darpar fabwysiadwyr yn credu bod plant iau yn cyflwyno llai o broblemau ac mae eraill yn teimlo ei bod hi'n haws gofalu am ferched.

“Nid yw hyn yn wir bob amser gan fod gan bob plentyn wahanol anghenion a phrofiadau ac yn aml gall y plentyn tawelach fod yn anoddach gweithio gydag ef.

“Weithiau rydyn ni'n gwybod llai am brofiadau plentyn iau, ond efallai bod gennym ni wybodaeth fanylach lle mae plentyn hŷn yn y cwestiwn. Ar gyfer y plant hŷn hyn rydym yn aml mewn gwell sefyllfa i ragweld unrhyw anghenion cymorth yn y dyfodol pe bai ei angen arnynt. "

Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn gofyn i bobl rannu'r eiliadau wnaeth eu selio nhw fel teulu @nas_cymru #DewisTeulu i annog eraill i ddewis mabwysiadu.

I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu, ewch i mabwysiadugogleddcymru.co.uk