Cadw Gwynedd a Chymru yn ddiogel ar noson Tân Gwyllt
Dyddiad: 30/10/2020
Oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo cyfredol efallai y bydd mwy o bobl yn meddwl am gynnal arddangosfa tân gwyllt adref y flwyddyn yma. Ond mae Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Gwynedd, yn ogystal â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, yn annog trigolion Gwynedd i ddathlu yn y modd mwyaf diogel.
Fel llawer o ddigwyddiadau eraill mae’r cyfyngiadau cyfredol yn golygu ni chaniateir yr arddangosfeydd arferol sydd wedi eu trefnu y flwyddyn yma. Y neges yw os ydych yn meddwl am gael arddangosfa yn eich gardd, plîs dilynwch y côd tân gwyllt: https://www.britishfireworksassociation.co.uk/firework-advice-for-consumers/
Mae’n holl bwysig bod pawb yn dilyn cyngor Llywodraeth Cymru. Cofiwch na phobl o’ch cartref chi yn unig geith fwynhau’r arddangosfa gyda chi. Plîs ystyriwch a byddwch yn barchus tuag at eich cymdogion yn enwedig y rhai hŷn a bregus ac y rhai sydd ddim eisiau cymryd rhan yn y dathliadau ac wrth gwrs unrhyw anifeiliaid. Mae’n rhaid i bawb feddwl sut y gallant gadw Gwynedd a Chymru’n ddiogel a pheidio lledaenu coronofeirws.
Cyfnod atal y coronafeirws - cwestiynau cyffredin: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin
Pethau pwysig i ystyried
• Gall dân gwyllt fod yn beryglus ac wrth gyfuno’r risgiau ychwanegol o goronafeirws, dylech feddwl yn ofalus cyn prynu flwyddyn yma. Dim ond gan fasnachwyr trwyddedig dylai tân gwyllt erioed cael eu prynu a dylai bod ganddynt farc CE. Byddwch yn wyliadwrus o werthwyr o ddrws-i-dddrws neu werthwyr preifat ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, a ellir bod yn manteisio ar y cyfyngiadau cyfredol - mae posibilrwydd na fydd y tân gwyllt yn cyrraedd y safonau diogelwch cynnyrch caeth.
• Dilynwch y Côd Tân Gwyllt bob amser: https://www.britishfireworksassociation.co.uk/firework-advice-for-consumers/
• Mae Cymru mewn cyfnod clo ar hyn o bryd. Golygai hyn os fyddwch yn cael parti tân gwyllt yn eich tŷ/ardd ac yn gwahodd ymwelwyr na chaniateir mi fyddwch yn torri’r gyfraith. Yn ychwanegol, mi fyddwch yn rhoi pawb mewn perygl o dal coronafeirws.
• Ni ddylech danio tan gwyllt mewn parciau nac mewn mannau agored cyhoeddus. Mae hyn wedi ei wahardd ym mhob awdurdod yng Nghymru.
• Dim coelcerth. Mae’r Gwasanaeth Tan ac Achub, Heddlu ac Awdurdodau lleol yn cynghori’n gryf i beidio cynnal coelcerth breifat.
• Ni chaiff bobl yng Nghymru ymgynnull gyda neb tu allan i’w cartref hwy os nad ydynt yn gartref person sengl, yn rhiant sengl, ble gaiff y rhain ffurfio cartref estynedig gydag un cartref arall.
• Cadwch anifeiliaid anwes dan do.
• Gall fwg tân boeni llwybrau anadl, croen a llygaid gan achosi tagu, gwichian, diffyg anadl a phoen brest. Gall bobl gydag asma ac afiechydon eraill resbiradol ddod yn wael oherwydd mwg tân. Mae’r bobl hyn hefyd dan risg bellach o salwch difrifol o COFID-19.
• Mewn argyfwng galwch 999.
• Am fwy o wybodaeth diogelwch cysylltwch â’r Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: https://www.nwales-fireservice.org.uk/home/?lang=cy-gb
• Cwestiynau Cyffredin Llywodraeth Cymru ar y cyfnod atal coronafeirws (Firebreak) ar gael fan hyn: https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin
Y Côd Tân Gwyllt
• Sicrhewch fod y tân gwyllt yn cydymffurfio a safonau a rheoliadau wedi ei gymeradwyo.
• Peidiwch ag yfed alcohol os ydych chi'n tanio tân gwyllt.
• Cadwch y tân gwyllt mewn bocs caeedig a dilynwch y cyfarwyddiadau wrth eu defnyddio.
• Taniwch nhw o hyd braich gan ddefnyddio tapr a sefwch ddigon pell yn ôl.
• Peidiwch byth a dychwelyd at y tân gwyllt unwaith maent wedi tanio. Hyd yn oed os nad yw’r tân gwyllt wedi mynd ffwrdd, mae’n bosib iddo dal ffrwydro.
• Peidiwch â byth taflu tân gwyllt na eu rhoi yn eich poced
• Parchwch eich cymdogion- peidiwch â thanio tân gwyllt yn hwyr yn nos a chofiwch fod rheoliadau i’w dilyn.
• Byddwch yn ofalus gyda ‘sparklers’ - peidiwch â byth eu rhoi i blant dan bump oed.
• Hyd yn oed ar ôl iddynt ddiffodd, mae ‘sparklers’ yn dal yn boeth felly rhowch nhw mewn bwced o ddŵr ar ôl eu defnyddio.
• Cadwch unrhyw anifeiliaid anwes yn y tŷ yn ystod y nos.
Mwy o wybodaeth yma:
https://www.britishfireworksassociation.co.uk/firework-advice-for-consumers/
https://www.nwales-fireservice.org.uk/keeping-you-safe/in-your-community/firework-bonfire-safety/
https://llyw.cymru/cyfnod-atal-y-coronafeirws-cwestiynau-cyffredin