Darlith Flynyddol Llyfrgell Penygroes

Dyddiad: 16/10/2018
Stryd Tal-y-Sarn a Thrên Nantlle

Ar nos Iau 8 Tachwedd, bydd Gareth Haulfryn Williams yn cyflwyno darlith flynyddol llyfrgell Penygroes yn Neuadd Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes am 7.30pm.

Braf yw meddwl fod Darlith Llyfrgell Penygroes yn dal i fynd ar ôl 50 o flynyddoedd ac yn dal i gyfrannu at ein dealltwriaeth a’n gwybodaeth o hanes lleol y Dyffryn. Fe’i trefnwyd gan Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Hanes Dyffryn Nantlle.

Mae Gareth Haulfryn Williams wedi creu chwip o ddarlith eleni, sydd yn olrhain yr hanes tu ôl i ddyfodiad y rheilffordd i Ddyffryn Nantlle. Mae'r hanes yn cychwyn gyda phasio Deddf Rheilffordd Nantlle yn 1825 a olygodd bod rheilffordd gul 3'6" yn cael ei hadeiladu i gludo llechi o chwareli'r Dyffryn i'r cei yng Nghaernarfon.

Rhyfeddod yw meddwl bod perchnogion sawl chwarel leol wedi dod at ei gilydd at y diben penodol o greu dolen rhwng chwarel a chei, ac yn hynny o beth roedd hi’n llwyddiant. Gan fod y chwareli a’u perchnogion hefyd yn dal llawer o gyfranddaliadau’r lein, arhosodd yr elw o fewn y gymuned - a chafodd y cyfranddalwyr incwm da.

Dyma enghraifft o bobl leol yn dod at ei gilydd i wella economi eu hardal - rhywbeth sy'n adleisio ymdrechion heddiw i ail-fywiogi economi a chymuned Dyffryn Nantlle! Ond mae sawl tro i'r stori hon. 

Dewch draw i wybod pam y bu dewis trac maint cul yn dyngedfennol i ddyfodol Rheilffordd Nantlle a pha effaith gafodd Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin Lloegr (y LNWR) ar fywyd pobl gyffredin y Dyffryn, heb sôn am yr effaith ar dafodiaith y Dyffryn, gyda geiriau fel dreifar yn disodli'r hen enw gyriedydd. Dyma gipolwg ar orffennol hynod ddifyr sy'n dal yn berthnasol i ni heddiw.

Mae mynediad am ddim a bydd copiau o’r ddarlith yn llawn ar gael i’w prynu ar y noson.

Llun: Stryd Talysarn a Thrên Nantlle (Archifdy Gwynedd)