Cofio Canmlwyddiant y Cadoediad yn Llanystumdwy

Dyddiad: 30/10/2018
Ar Sadwrn 10 Tachwedd 2018 bydd Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George yn cofio Diwrnod y Cadoediad yn Llanystumdwy.

David Lloyd George, a fagwyd yn Llanystumdwy, oedd y Prif Weinidog ar y pryd ac ef wnaeth ddatgan i’r genedl bod y rhyfel wedi dod i ben ar 11 Tachwedd 1918.

I nodi’r digwyddiad hanesyddol yma yng ngyrfa Lloyd George ac yn hanes Ewrop a’r Byd, mae’r Cyfeillion wedi trefnu bod y bardd, cerddor ac un o drigolion Llanystumdwy, Twm Morys, yn ail adrodd geiriau Lloyd George can mlynedd yn ôl.

Bydd Twm yn arwain at funud o dawelwch gyda geiriau dirdynnol Lloyd George, ac yna’n disgrifio sut wnaeth pentref Llanystumdwy ymateb i’r newyddion canrif yn ôl.

Meddai Megan Cynan Corcoran, Swyddog Cydlynydd Amgueddfa a Gwirfoddoli Cyngor Gwynedd, “Bydd cael Twm Morys i adrodd geiriau Lloyd George yn eu dod yn fyw unwaith eto, ac i alluogi ni i ddychmygu effaith y geiriau hyn ar y genedl gan mlynedd yn ôl.

“Mae’n wych bod yr Amgueddfa’n chwarae rhan bwysig i gofio Canmlwyddiant y Cadoediad, ac i sicrhau nad ydym yn colli cysylltiad gyda’r gorffennol.”

Bydd mynediad am ddim i Amgueddfa Lloyd George, Llanystumdwy ar y diwrnod rhwng 10:00 a 16:00 er mwyn rhoi cyfle i bawb fwynhau’r Amgueddfa a Highgate, sef tŷ lle magwyd Lloyd George ynddo.