Trosolwg o waith Cyngor Gwynedd dros y flwyddyn ddiwethaf
Dyddiad: 04/07/2022
Mae Aelodau Cyngor Gwynedd wedi derbyn Adroddiad Perfformiad yr awdurdod ar gyfer 2021/22. Cyflwynwyd yr adroddiad – sy’n nodi’r cynnydd sydd wedi ei wneud yn erbyn blaenoriaethau’r Cyngor – i’r Cyngor Llawn yn ddiweddar.
Cafwyd cymeradwyaeth i allu’r awdurdod i ddarparu gwasanaethau i bobl Gwynedd, er gwaetha’r ffaith fod pawb dal i deimlo effeithiau’r pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw cyfredol.
Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd:
“Mae’r adroddiad yn tynnu at ei gilydd holl waith sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn mesur llwyddiant ein prosiectau, mae’n amlygu’r llwyddiannau ac yn dangos lle mae gwaith dal angen ei wneud.
“Mae cysgod y ddwy flynedd ddiwethaf – a sgil-effeithau Covid-19 – dal i fod drosom. Ond er gwaethaf hyn i gyd, dwi’n hynod falch o weld y dystiolaeth sydd rhwng cloriau’r adroddiad yma fod y Cyngor wedi dal ati i ddarparu’r gorau i bobl Gwynedd.
“Unwaith eto dwi’n diolch yn fawr i holl staff y Cyngor am eu hymroddiad. Rwyf yn edrych ymlaen i weld sut bydd y prosiectau hyn yn datblygu i’r dyfodol a sut gallwn ddal ati i ddod a’n gweledigaeth am Wynedd lewyrchus yn realiti.”
Rhai o uchafbwyntiau adroddiad eleni yw:
• Gofal – Yn ystod y flwyddyn, mae’r Cyngor wedi parhau i ddarparu PPE i staff ac i ofalwyr ar draws y sector. Mae’r staff rheng flaen a thrigolion sy’n derbyn cefnogaeth wedi parhau efo’r broses profi yn rheolaidd. Law yn llaw ag ymdopi â’r gofynion profi, dylid cydnabod yr ymdrech arwrol sydd wedi bod ar draws y maes wrth frechu staff allweddol a’n trigolion bregus gyda’r ‘booster’. Mae 95.7% o breswylwyr cartrefi preswyl y Cyngor wedi derbyn eu brechiadau Covid-19, yn cynnwys yr hwblyn (‘booster’).
• Cartrefi i bobl leol – Rydym yn falch o ddweud, ar gyfartaledd, bod 97% o osodiadau tai cymdeithasol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi mynd i berson lleol â chysylltiad â Gwynedd (yn union â’r diffiniad yn y Polisi Gosod newydd). Yn ystod 2021/22, derbyniwyd 1,400 o geisiadau (18% yn fwy na 2020/21) i fynd ar y Gofrestr Tai Gyffredin, a bu modd i’r tîm brosesu’r ceisiadau yn gyson o dan y targed 10 diwrnod.
• Yr amgylchedd – Mae’r amgylchedd leol yn hynod bwysig ac elfen fawr o hyn yw gweld ein strydoedd a thiroedd yn lân, yn daclus ac yn ddiogel. Rydym yn defnyddio mesurydd o’r enw ‘Mynegai Glendid’ (sy’n gyfuniad o asesiad mewnol ac allanol) er mwyn asesu safon glendid ac edrychiad strydoedd. Yn 2021/22 roedd ein safon glendid yn 97%.
• Addysg – Bu’r Adran Addysg yn flaenllaw wrth lunio polisïau a gweithdrefnau er mwyn caniatáu ysgolion Gwynedd i fod yn dysgu o bell drwy dechnoleg dysgu byw. Bu i bolisi blaengar Gwynedd maes o law gael ei fabwysiadu gan nifer o awdurdodau eraill, a bu’r adran yn rhagweithiol yn hyrwyddo ac annog sesiynau dysgu byw gyda’n hysgolion, gan weld manteision amlwg hynny i’r dysgwr.
Mae copi llawn o’r adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021/22 ar gael ar wefan y Cyngor:
www.gwynedd.llyw.cymru/Perfformiad ac mae copi papur ar gael drwy gysylltu â’r Cyngor ar 01766 771000 a bydd swyddogion yn trefnu i anfon copi trwy’r post. Mae copïau papur hefyd ar gael yn eich llyfrgell leol neu gellir defnyddio’r cyfrifiaduron cyhoeddus i’w ddarllen ar-lein. Mae manylion cyswllt / lleoliadau / oriau agor pob un o lyfrgelloedd y sir ar gael ar:
www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell