Graddio drwy gynllun Prentisiaethau Cyngor Gwynedd

Dyddiad: 14/07/2022
Sion Derwyn  Huws

Mae cynllun prentisiaethau blaengar Cyngor Gwynedd yn dathlu llwyddiant y person cyntaf i raddio wrth ddilyn y trywydd gyrfa hwn.

Derbyniodd Siôn Derwyn Hughes o Bwllheli radd 2:1 o Brifysgol Bangor mewn Peirianneg Meddalwedd ac mae hefyd wedi derbyn swydd fel Peiriannydd Gweinyddwr a Systemau yn Adran TG y Cyngor.

Dyma ffrwyth tair blynedd o lafur i Siôn ac i’r tîm sydd wedi bod yn cefnogi ei brentisiaeth yn y Cyngor. Ers ymateb i hysbyseb a welodd mewn ffair swyddi ‘nol yn 2019, mae Siôn wedi bod yn astudio am ei radd law-yn-llaw a gweithio i’r Cyngor a derbyn cyflog. 

Fel rhan o gynllun prentisiaethau Cyngor Gwynedd, derbyniodd Siôn gefnogaeth pob cam o’r ffordd gan ei gydweithwyr yn y Cyngor a gan staff academaidd Prifysgol Bangor.

Dywedodd Siôn Derwyn Huws:

“Fedrai ddim brolio’r cynllun digon i fod yn onest.  Mae tair blynedd o brofiad gwaith wrth astudio wedi fy helpu i ddiogelu swydd o fewn y Cyngor. Ac mae’n braf gweithio mewn awyrgylch Cymraeg yn ogystal â  gweithio o fewn maes o ddiddordeb. 

“Dw i wedi derbyn cymaint o gefnogaeth dros y blynyddoedd. Dw i hefyd wedi cael nifer o gyfleodd i fynychu digwyddiadau diddorol yn ogystal â chyrsiau a chyfleodd dysgu ychwanegol.

“Mae cael gweithio gyda phobl gefnogol a phrofiadol wedi rhoi sylfaen dda i mi wrth i mi edrych ymlaen at fy ngyrfa, fyddwn i ddim wedi cael y profiad hwn petawn i wedi dilyn trywydd traddodiadol o fynd i’r coleg.”

Beth fyddai cyngor Siôn i unigolion eraill sy’n ystyried pa drywydd gyrfa i’w ddilyn? 

“Os ti’n gweld cyfle am brentisiaeth gyda’r Cyngor mewn pwnc sydd o ddiddordeb, dos amdano fo!” meddai.

Dywedodd y Cynghorydd Menna Jones, yr Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros faes prentisiaethau a hybu talent o fewn y Cyngor:

“Roeddwn yn falch iawn o glywed stori Siôn ac o wybod fod llawer mwy fel fo sy’n cael cyfleoedd gwych fel hyn a gallan nhw edrych ymlaen at yrfa lewyrchus yn eu cymuned eu hunain.

“Hyd yma, mae dros 30 o brentisiaid wedi eu penodi i weithio i’r awdurdod ac mae bwriad i gynnig swyddi i hyd at 20 o brentisiaid bob blwyddyn o hyn ymlaen.. Mae hyn yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu talent leol a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o staff i fagu sgiliau a hyder.”

I wybod mwy am y cynllun prentisiaeth ewch i’r wefan:  Ai prentisiaeth yw'r cam nesaf i chi? (llyw.cymru), neu cysylltwch gyda’r tîm prentisiaethau@gwynedd.llyw.cymru

I weld pa gyfleoedd sydd ar y gorwel, dilynwch y gwasanaeth ar y  Facebook a Trydar

Mae gwybodaeth am gyfleoedd eraill am swyddi a chynllun graddedigion y Cyngor hefyd ar gael ar y wefan Swyddi (llyw.cymru) neu dilynwch Swyddi Cyngor Gwynedd ar Facebook.