Dod at ein gilydd dros dementia

Dyddiad: 21/07/2022
Mari and Richie
Cynhaliwyd ddigwyddiad arbennig i ddathlu penblwydd y rhwydwaith sy’n helpu pobl sy’n byw gyda gan dementia ym Mhlas Tan-y-Bwlch, Maentwrog.

Mae DEEP, sef rhaglen ymgysylltu a grymuso dementia (Dementia Engagement & Empowerment Programme) yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed eleni, a cafodd y dathliadau eu trefnu ar y cyd gan DEEP Caban, Prifysgol Bangor, a Like Minded, Y Wyddgrug.

Croesawyd oddeutu 80 o waddedigion i’r Plas o bob cornel o ynysoedd Prydain, oedd wedi cael rhyw brofiad o ddementia.

Trefnwyd rhaglen brysur iawn gyda chyflwyniadau gan dri grwp DEEP Gogledd Cymru, panel trafodaeth a gweithdai amrywiol, gan gynnwys gweithdai celf, barddoniaeth, dawns a thaith gerdded. Bu hefyd adloniant gan y cerddor lleol, Gai Toms, i gloi’r noson.

Dywedodd un person sy’n byw gyda dementia: “Dwi’n cael amser gorau fy mywyd oherwydd y cefnogaeth dwi’n derbyn gan cyfoedion sy’n mynd trwy’r un peth a finnau.”

Dywedodd Emma Quaeck, o Dementia Actif Gwynedd, sy’n rhan o Adran Oedolion Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd:

“Roedd yn anrhydedd cael cynnal y digwyddiad arbennig iawn hwn ac yn bleser gweld cymaint o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia yn dod at ei gilydd mewn ffordd mor hamddenol, onest a chadarnhaol.

“Fel tîm, fe ddysgon ni gymaint o wrando ar yr hyn oedd gan bobl i’w ddweud, roedd yn wirioneddol ysbrydoledig. Roedd pobl wrth eu bodd â’r lleoliad, a fe wnaethom ni drio ein gorau i sicrhau fod y digwyddiad yn Gyfeillgar i Ddementia a fod yr ymwelwyr wedi gallu mwynhau profi ychydig o ddiwylliant Cymreig.

“Gobeithio y gallwn gyd gwrdd eto mewn 10 mlynedd i ddathlu llwyddiannau pellach!”