Cyngor yn rhybuddio am beryglon safle Glyn Rhonwy

Dyddiad: 12/07/2022
WP_20190624_16_15_39_Pro
Wrth i’r tywydd gynhesu, mae Cyngor Gwynedd unwaith eto yn annog aelodau’r cyhoedd i beidio â rhoi eu hunain mewn perygl diangen drwy anwybyddu arwyddion sy’n rhybuddio i beidio â thorri mewn i safle Glyn Rhonwy er mwyn nofio mewn pyllau dŵr chwarelyddol neu ddringo a mynd i mewn i gyn-gyfleuster storio bomiau. 

Gyda nifer o adroddiadau wedi bod yn y gorffennol am bobl naill ai’n torri neu’n dringo’r ffens chwe throedfedd ddur sy’n amgylchynu safle Glyn Rhonwy ger Llanberis. Mae’r Cyngor yn rhybuddio am beryglon posib y safle.

Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Ddatblygu’r Economi: “Mae mynediad i’r safle yng Nglyn Rhonwy wedi ei rwystro am reswm. Mae pobl wedi anwybyddu nifer o arwyddion a osodwyd ar y safle yn y gorffennol, gan roi eu hunain mewn peryg diangen.

“Mae’r pyllau chwarel sydd wedi eu defnyddio gan dresmaswyr i nofio ynddynt yn cynnwys nifer o beryglon allai arwain at anafiadau difrifol, neu waeth - yn cynnwys malurion tanddwr a darnau llechi miniog. Dylid cofio hefyd bod tymheredd y dŵr yn y pyllau yn beryglus o oer hyd yn oed yn ystod cyfnodau hir o dywydd poeth.

“Rydym yn annog y cyhoedd i beidio â rhoi eu hunain mewn perygl diangen drwy ddringo dros neu fandaleiddio’r ffens er mwyn mynd at y cyn chwarel a’r pyllau dwr sydd wedi gorlifo, yn ogystal â thresbasu ar dir preifat.

“Yn y gorffennol rydym wedi dod a’r mater i sylw Heddlu Gogledd Cymru a byddwn yn annog i unrhyw un sy’n gweld pobl yn tresmasu ar y safle i gysylltu gyda’r heddlu yn syth drwy ffonio 101, neu 999 os bydd rhywun mewn perygl.

“Mae ein neges i’r cyhoedd yn syml - cadwch allan o’r safle peryglus hwn. Rydym hefyd yn apelio i rieni i sicrhau fod  eu plant yn ymwybodol o’r peryglon o dresmasu ar gyn-safleoedd diwydiannol ac i osgoi nofio mewn unrhyw byllau neu lynnoedd all fod â pheryglon cudd megis cerrynt tanddwr neu ddŵr tyfn dirybudd.”