Cadw'n ddiogel tra'n mwynhau arfordiroedd Gwynedd

Dyddiad: 15/07/2022
Llun Datganiad

Mae Cyngor Gwynedd yn parhau i annog trigolion ac ymwelwyr y sir i gymryd gofal tra’n ymweld â’r traethau.

Gyda tywydd braf wedi’i rhagolygu, mae’n anochel bydd pobl eisiau manteisio ar y cyfle i fwynhau’r adnoddau naturiol yng Ngwynedd. Mae disgwyl y bydd llawer o bobl yn ymweld â’r arfordir ac yn treulio amser ar lan-y-môr, a mae Cyngor Gwynedd yn awyddus i bobl wneud hynny mewn modd sy’n saff a chydwybodol.

 

Dywedodd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd:

“Gyda tywydd braf ar ei ffordd i Wynedd, mae’r niferoedd bydd yn ymweld a’r traethau hardd yn naturiol yn cynyddu. Rydyn ni eisiau atgoffa pawb sy’n ystyried ymweld a’r arfordiroedd i gynllunio o flaen llaw, ac i drin y môr a’r traeth gyda parch.

“Rydyn ni eisiau pawb i fwynhau’r adnoddau naturiol gwych sydd gennym yma, ond i wneud hynny gyda’r peryglon mewn cof ac i gadw yn ddiogel bob amser.

“Sicrhewch eich bod yn taro sylw ar yr holl arwyddion sydd wedi’i gosod o amgylch y traeth yr ydych yn ei ymweld. Bydd weithiau baneri wedi’i gosod ar rhai traethau yn nodi ble mae’n saff i nofio, a bydd wardeiniaid yn ymweld a traethau yn eu tro felly os ydych chi’n ansicr gallwch ofyn iddyn nhw am fwy o wybodaeth.

“Os ydych chi am fynd fewn i unrhyw fath o ddŵr – gwnewch yn siŵr fod gennych yr hawl i wneud hynny, a’i fod yn ddiogel i wneud. Cofiwch – er fod hi’n gallu bod yn boeth iawn, mae’r dŵr hefyd yn gallu bod yn oer iawn. Yn ogystal, fe all natur y dŵr newid yn gyflym iawn, a’r llanw newid ei ffordd mewn eiliadau.”

 

Yn anffodus, mae damweiniau yn digwydd ar yr arfordir bob blwyddyn.

Gallwch helpu leihau y nifer o ddamweiniau drwy gynllunio synhwyrol a pharatoi yn bwrpasol, ac hefyd dilyn y cyngor sy’n cael ei roi.

 

Mae Cyngor Gwynedd yn annog bawb i:

  • gynllunio a pharatoi ar gyfer y tywydd – gwiriwch y rhagolygon tywydd, ewch a dillad addas, darllenwch yr holl rybuddion a’r arwyddion gwybodaeth, ewch a digon o eli haul i chi a’ch teulu;
  • gadw llygad ar eich ffrindiau a’ch teulu tra’n ymweld a’r traeth. Os ydynt mewn dŵr - gwiriwch yn aml eich bod yn gallu eu gweld nhw, a’u bod nhw’n gallu clywed chi’n galw arnyn nhw os oes rhaid;
  • beidio gadael i rywun nofio ar ben eu hunain;
  • beidio defnyddio offer enchwythu (inflatable) heb fod cortyn diogelwch wedi ei angori i’r lan;
  • beidio anwybyddu’r baneri coch neu unrhyw arwydd sy’n dweud i beidio nofio;
  • ffonio 999 a gofyn am wylwyr y glannau os oes argyfwng

 

 

Meddai Barry Davies o Wasanaeth Morwrol Cyngor Gwynedd:

“Mae’r adeg hon o’r flwyddyn yn gyfnod prysur iawn i’r adran morwrol y cyngor, gyda ymwelwyr yn heidio i’r traethau i ymlacio.

“Rydyn ni eto'n annog pobl i fod yn saff a wyliadwrus trwy’r amser tra’n ymweld a’r traethau eleni, drwy baratoi yn iawn cyn mentro, ac i gofio am y peryglon.

“Mae gennym dîm wardeiniaid traeth sydd ar gael i gynghori pobl sy’n ymweld a’r traeth – ond gyda bron i 180 milltir o arfordir, ni all ein wardeiniaid traeth fod ym mhobman bob tro.

“Fel pob blwyddyn, rydyn ni eisiau i cyn gymaint o bobl i fwynhau’r lan-y-môr a sy’n bosib, ond i wneud hynny yn llwyddiannus rhaid i bobl fod yn ystyrlon o rym natur ac i gadw diogelwch ar blaen eu meddyliau. Cofiwch roi ddigon o eli haul, mynd a’ch sbwriel adref, a chymryd egwyl yn rheolaidd o weithgareddau sy’n eich blino.”

 

I ddysgu mwy am draethau Gwynedd, ewch i: www.gwynedd.llyw.cymru/morwrol