Blas ar weithgareddau Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd
Dyddiad: 13/07/2022
Dathlwyd Wythnos Gwaith Ieuenctid ledled Cymru yn ddiweddar, gyda Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd yn ymuno yn yr hwyl ac yn rhoi blas i bobl ifanc o’r gweithgareddau sydd ar gael.
Themâu’r wythnos eleni, a gynhaliwyd rhwng 23-30 Mehefin, oedd Pum Ffordd at Les.
Rhoddodd yr wythnos hefyd gyfle i bobl ifanc Gwynedd gysylltu a’u gilydd a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau a chyrsiau, gan cynnwys garddio, allteithiau, sesiynau codi ymwybyddiaeth am gyffuriau, celf a dysgu am fanteision rhoi i eraill.
Cafwyd hefyd y cyfle i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i’r fro gyda gweithgareddau amrywiol ym Mhorthmadog, yn cynnwys ‘zorbio’ a bwrdd dartiau ar gael yn y parc drwy gydol yr wythnos.
Dywedodd un o’r pobl ifanc sydd hefyd yn gwneud ei Gwobr Dug Caeredin gyda Ieuenctid Gwynedd:
“Rwyf yn hoffi Gwobr Dug Caeredin gan ei fod yn fy nghael i allan o’r tŷ ac i gyfarfod pobl newydd nad oeddwn byth yn meddwl y byddwn i’n ffrinidau gyda nhw.”
Dywedodd Steffan Williams, Rheolwr Gwaith Ieuenctid Gwynedd:
“Rydym wedi derbyn adborth positif iawn am gynnwys yr wythnos eleni ac rydym yn edrych ymlaen am flwyddyn nesaf yn barod.”
Am ragor o wybodaeth am weithgareddau Ieuenctid Gwynedd, dilynwch ar Facebook , Twitter ac Instagram.
.