Ail gartrefi - Cyngor Gwynedd yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru

Dyddiad: 05/07/2022

Mae Cyngor Gwynedd wedi croesawu’r pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a llety gwyliau ar allu pobl leol i gael mynediad i gartrefi fforddiadwy yn eu cymuned.

Mae’r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford AS ac arweinydd Plaid Cymru Adam Price AS yn amlinellu newidiadau arloesol yn y maes cynllunio, cynllun trwyddedu ar gyfer llety gwyliau a chynigion ym maes trethu.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Dyfrig Siencyn:

“Mae’r cyhoeddiad hwn yn gam cadarnhaol pellach yn yr ymdrechion i fynd i’r afael â’r argyfwng ail gartrefi. 

“Braf iawn yw gweld fod ein galwadau fel Cyngor wedi eu hymgorffori yn yr hyn sydd wedi ei gyhoeddi, edrychwn ymlaen i barhau i gydweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau newid cadarnhaol yn y maes hollbwysig yma.

“Mae’r sefyllfa sydd ohoni – lle mae pobl yn cael eu prisio allan o’u cymunedau – yn gwbl anghynaladwy a rhaid ymyrryd er mwyn sicrhau fod pobl yn gallu cael mynediad at dai addas yn eu cymunedau.”

Yn ôl cyhoeddiad y Llywodraeth heddiw, bydd tri dosbarth cynllunio newydd yn cael eu cyflwyno, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr. Lle mae tystiolaeth bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu addasu’r system fel bo rhaid cael caniatâd cynllunio i newid defnydd annedd o un dosbarth i’r llall. Bydd newid hefyd yn cael ei gyflwyno i bolisïau cynllunio cenedlaethol i alluogi awdurdodau lleol i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.

Fel ail fesur, bydd y Llywodraeth yn cyflwyno system drwyddedu fandadol ar gyfer llety gwyliau tymor byr lle bydd rhaid cael trwydded i weithredu llety o’r fath. Bydd hyn yn helpu cynghorau i reoli'r system dai a chodi safonau ar draws y diwydiant twristiaeth.

Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys ymrwymiad i gyflwyno Treth Trafodion Tir a morgeisi cynghorau mewn ardaloedd lle mae cyfran uchel o ail gartrefi.

Ychwanegodd y Cynghorydd Siencyn:

“Rydym yn falch fod y Llywodraeth wedi gwrando ar ein dadleuon ac rŵan yn ymrwymo i roi pwerau i lywodraeth leol i reoli effaith ail gartrefi ar ein pentrefi a threfi drwy’r gyfundrefn cynllunio.

“Fel Cyngor, rydym wedi bod yn galw’n benodol am system drwyddedu mandadol ar gyfer llety gwyliau tymor byr. Rydym yn hynod falch fod y llywodraeth wedi derbyn ein dadleuon ac wedi cynnwys y mesurau hanfodol yma yn y pecyn.

“Rydym yn edrych ymlaen i gael rhagor o fanylion gan y Llywodraeth am y cynllun cenedlaethol i gyflwyno Treth Trafodion Tir a morgeisi cynghorau. Mae pob menter sy’n hwyluso cyfleoedd teg i brynwyr tro cyntaf i allu fforddio tai yn eu cymunedau eu hunain i’w groesawu’n gynnes.

“Mae’r cyhoeddiad yma yn ffrwyth llafur blynyddoedd o lobïo gan Gyngor Gwynedd. Rydym wedi cyflwyno tystiolaeth fanwl am yr argyfwng ac wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru i ddatblygu argymhellion ymarferol i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Rydym yn edrych ymlaen i ddysgu mwy am y mesurau hyn ac, yn fwy na dim, i gydweithio gyda’r llywodraeth i sicrhau fod y cynlluniau yn cael eu gweithredu ar lawr gwlad cyn gynted ag y bo modd.”