Haf o Hwyl a Sialens Ddarllen yn Llyfrgelloedd Gwynedd

Dyddiad: 19/07/2022
Cymraeg

Dros wyliau’r haf, bydd nifer o weithgareddau am ddim i blant yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ar draws Gwynedd gan gynnwys sesiynau stori, creu crefftau, teithiau cerdded, dawnsio a llawer mwy!

Y thema eleni yw ‘Teclynwyr’ sy’n rhoi pwyslais ar themâu gwyddoniaeth ac arloesi. Mae’n rhoi cyfle i blant 4-11 oed ymweld â’u llyfrgell leol i gwrdd â’r Teclynwyr ac i gymryd rhan mewn Sialens Ddarllen fydd yn ennyn chwilfrydedd a’u gallu i ddeall yr wyddoniaeth tu ôl i ystod eang o ddiddordebau gan gynnwys ffasiwn, technoleg, coginio a cherddoriaeth.

Dywedodd Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd Gwynedd: “Mae’r sialens ddarllen yn ffordd wych o gynnal diddordeb plant mewn llyfrau a’u hannog i barhau i ddarllen dros yr haf.”

Ychwanegodd Y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd ac Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Llyfrgelloedd: “Diolch i grantiau Haf o Hwyl a Phlentyndod Cynnar Llywodraeth Cymru, rydym yn falch o fedru cynnal amrywiaeth o weithgareddau a darparu deunyddiau i blant oedran cynradd y sir i’w hannog i ddarllen ac ennyn chwilfrydedd am y byd o’u hamgylch.”

Ymgyrch genedlaethol yw’r Sialens Ddarllen Haf a gynhelir gan y Reading Agency mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a’r Science Museum Group. Ariannir y gweithgareddau gan gynllun #Hwyl yr Haf Llywodraeth Cymru.

Am fwy o fanylion am y sialens ddarllen, ewch i Summer Reading Challenge Cymru (sialensddarllenyrhaf.org.uk) ac am wybodaeth am yr holl weithgareddau a mwy, ewch i https://linktr.ee/LlyfrgellGwyneddLib

Llun - Delwedd Haf o Hwyl eleni