Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth i ddangos gwerthfawrogiad tuag at Heddlu Gogledd Cymru
Dyddiad: 29/07/2020
Mae’r gystadleuaeth i greu poster i ddweud “Diolch i Heddlu Gogledd Cymru”, am ein cadw’n ddiogel yn ystod y misoedd olaf wedi dirwyn i ben. Mi osododd Menter Iaith Bangor her i deuluoedd ardal Bangor a Bethesda i lunio poster gwreiddiol eu hunain a’i roi i fyny mewn ffenestr amlwg yn eu cartref a thynnu llun ohono a’i anfon at dudalen Facebook y fenter iaith.
Eglura Cadeirydd Menter Iaith Bangor John Wynn Jones: “Cafodd nifer o blant ardal Bangor a Bethesda hwyl dda iawn arni yn llunio posteri creadigol a lliwgar.
Rydym yn falch o allu cyhoeddi mai Elain Owen o Lanllechid a Honey Jones o Maesgeirchen a dyfarnwyd fel yr enillwyr gan y Cynghorydd Rheinallt Puw a Maer Bangor, John Wyn Williams. Da iawn chi.
“Diolch yn fawr i bob un plentyn a rhiant am fynd i’r drafferth i lunio poster ac am gystadlu. Mae’r posteri i gyd yn werth chweil ac mae darpar artist ymhlith sawl un, heb os.”
Meddai Simon Williams, Prif Uwch Arolygydd Dros Dro Heddlu Gogledd Cymru: “Ar ran Heddlu Gogledd Cymru hoffwn ddiolch i bob un o’r ymgeiswyr am ddylunio posteri meddylgar a gwych.
“Rydym wrth ein boddau derbyn a gweld negeseuon o gefnogaeth gan y cyhoedd ac rydym yn mawr obeithio y bydd Honey ac Elain yn mwynhau eu gwobrwyon.”
Bydd y ddwy eneth yn derbyn taleb i’w ddefnyddio yn siop Partneriaeth Ogwen a playmobil car heddlu gan Heddlu Gogledd Cymru.
Dywedodd Derfel Owen, tad Elain, ar ôl clywed iddi fod yn fuddugol: “Mae hi wedi gwirioni yn llwyr. Newyddion da oherwydd mae fy chwaer yn swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru ac felly yn golygu lot i Elain.”
Yn yr un modd roedd Honey hefyd wedi gwirioni ar ennill, yn ôl ei modryb, Alison Clarke.
Mae modd gweld yr holl bosteri ar dudalen Facebook Menter iaith Bangor: https://www.facebook.com/menteriaithbangor/ - dilynwch y cyfrif am amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau i blant.
LLUNIAU:
1 - Elain 6 oed gyda Begw ei chwaer fach flwydd oed a’r poster enfys.
2 - Honey hefo’i phoster lliwgar.