Cefnogi busnesau Gwynedd i agor yn ofalus
Dyddiad: 14/07/2020
Mae Cyngor Gwynedd yn diolch i fusnesau’r sir sy’n dechrau croesawu cwsmeriaid yn ôl wrth i’r cyfnod cloi lacio.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae busnesau o bob math ar draws Gwynedd wedi bod yn paratoi drwy osod mesurau sy’n eu galluogi i fasnachu mewn ffordd fydd yn cadw eu staff a chwsmeriaid yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi:
“Heb os, y misoedd diwethaf ydi’r cyfnod mwyaf heriol mewn cof i fusnesau ar hyd a lled y wlad.
“Hoffwn ddiolch o galon i holl fusnesau Gwynedd am eu hagwedd cyfrifol a gofalus drwy gydol y cyfnod cloi, ac am eu hymdrechion i gefnogi a chadw ein cymunedau yn ddiogel.
“Mae’n diolch yn fawr i’r busnesau hynny sydd wedi rhoi ein cymunedau o flaen eu buddiannau personol drwy roi’r gorau i fasnachu am y tro. Mae’n destun balchder hefyd i weld yr holl enghreifftiau o fusnesau lleol sydd wedi arloesi a newid eu gweithgaredd a’u harferion er mwyn parhau i wasanaethu ein trigolion.
“Gyda Llywodraeth Cymru bellach yn llacio’r cyfyngiadau, rydym rwan yn symud i gyfnod newydd – ond cyfnod sydd, mewn sawl ffordd, hyd yn oed yn fwy heriol.
“Fel Cyngor, byddwn yn parhau i gydweithio'n adeiladol gyda busnesau a chymunedau Gwynedd i gefnogi ein gilydd trwy'r cyfnod nesaf er mwyn diogelu iechyd pobl Gwynedd ochr yn ochr â chefnogi busnesau a’r economi leol.
“Mae ein neges i fusnesau Gwynedd yn un syml a diamwys – rydym yma i’w cefnogi i ail-agor a masnachu’n ddiogel. Bydd ein swyddogion yn gweithio’n galed i sicrhau fod gan fusnesau fynediad i’r holl wybodaeth a chyngor diweddaraf i'w helpu i addasu ac adfer eu gweithgareddau.”
Mae’r Coronafeirws dal i fod yn ein cymunedau, felly wrth ail agor, mae’r Cyngor yn gofyn i fusnesau i:
- barhau i bellhau’n gymdeithasol a sicrhau fod eu gweithwyr a chwsmeriaid yn gallu gwneud;
- parhau i olchi dwylo a gwneud yn siŵr fod staff a chwsmeriaid yn gwneud hynny; parhau i gadw’n ddiogel – cynllunio a pharatoi yn ofalus wrth ail-agor i sicrhau eu diogelwch eu hunain, eu gweithwyr a chymunedau Gwynedd.
Mae gwybodaeth ddiweddaraf ar gyfer busnesau Gwynedd gan gynnwys posteri pwrpasol y gellir eu harddangos i’w gweld ar www.gwynedd.llyw.cymru/busnesCOVID19 . Mae manylion hefyd ar gael drwy ddilyn @BusnesGwynedd ar Twitter a gall busnesau hefyd gofrestru ar gyfer cylchlythyrau rheolaidd yma.
LLUN: Mae’r Cynghorydd Gareth Thomas wedi talu teyrnged i ymdrechion busnesau Gwynedd yn ystod y cyfnod clo