Teithiau tywys yn Storiel dros yr haf

Dyddiad: 26/07/2018
teithau tywys-1

Fel rhan o weithgareddau dros wyliau’r haf yn Storiel, bydd cyfres o deithiau tywys o’r amgueddfa ac oriel yn cael eu cynnal yno bob dydd Iau.

 

Bydd y teithiau yn cael eu cynnal gan aelodau Cyfeillion Storiel, staff a gwirfoddolwyr yr amgueddfa ac oriel gelf sydd wedi ei lleoli ym Mangor.

 

Ynghyd a sgyrsiau cyffredinol am gasgliadau Storiel, bydd rhai teithiau mwy penodol a fydd yn canolbwyntio ar archeoleg.

 

Bydd pob taith yn cychwyn wrth dderbynfa Storiel am 2pm ar ddydd Iau hyd canol Medi, ac yn para rhwng hanner awr ac awr. Bydd y teithiau yn cynnig cyfle arbennig i ddysgu mwy am gasgliad Storiel gan arbenigwyr ynghyd a chyfle i fwynhau paned a chacen yn y caffi am £4.95. Ni fydd ffi am y teithiau ond bydd unrhyw roddion yn cael eu croesawu.

 

Bydd y daith cyntaf ar ddydd Iau, 26 Gorffennaf am 2pm gyda’r archeolegwraig Frances Llewelyn.

 

Am fwy o wybodaeth am y teithiau tywys, cysylltwch â Storiel ar storiel@gwynedd.llyw.cymru neu ffonio 01248 353 368.

 

Mae Storiel ar agor o 11am tan 5pm o ddydd Mawrth hyd ddydd Sadwrn.