Tîm o Amgylch y Teulu Cyngor Gwynedd yn dathlu pen-blwydd arbennig

Dyddiad: 03/04/2023
Llun CyfBlyn1
Mae gwasanaeth sy’n cefnogi teuluoedd mwyaf bregus Gwynedd yn dathlu degawd o waith gwych a diflino.

Gall rhai teuluoedd wynebu trafferthion ar adegau a phrif amcan y Tîm o Amgylch y Teulu Cyngor Gwynedd yw dod â’r holl wasanaethau sy’n gallu cefnogi pobl drwy gyfnodau anodd at ei gilydd a chreu cynllun i’w cael drwy’r cyfnod dyrys.

Mae Tîm o Amgylch y Teulu Gwynedd yn galluogi mynediad at amrediad o wasanaethau cefnogol, er enghraifft sgiliau rhiantu; cefnogaeth iechyd meddwl; cymorth gyda materion tai; a llawer mwy.

Cynhaliwyd digwyddiad arbennig ym Mhorthmadog yn ddiweddar i ddathlu’r garreg filltir o ddeng mlynedd. Daeth aelodau’r timoedd sydd o dan ymbarél Teuluoedd yn Gyntaf at ei gilydd i rhannu gwybodaeth a dathlu llwyddiannau.

Roedd cynrychiolaeth o amrywiol dimau yn cynnwys Derwen, Tîm Datblygiad Cynnar a Chwarae, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Gwynedd a Môn, Tîm o Amgylch y Teulu, Cefnogi Teulu Arfon a Dwyfor, Tîm Y Bont a Barnado’s.

Dywedodd y Cynghorydd Elin Walker Jones, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Plant a Chefnogi Teuluoedd:

“Pan mae gan deuluoedd nifer o bethau yn eu poeni – fel sefyllfa fregus yn y cartref neu anawsterau dysgu– mae bywyd yn gallu bod yn anodd ac yn anffodus yn amlach na dim y plant sy’n dioddef fwyaf.

“Mae ceisio gwybod pa asiantaethau neu wasanaethau sydd ar gael i helpu yn gallu llethu unrhyw un ar y gorau, felly mae Tîm o Amgylch y Teulu yn gwneud gwaith gwych drwy greu cynlluniau, tynnu asiantaethau at ei gilydd a chefnogi teuluoedd i ddatrys eu problemau.”

Ychwanegodd: “Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i holl wasanaethau cefnogol Gwynedd ddod at ei gilydd i wybod mwy am waith ei gilydd, i gefnogi ei gilydd ac i ddathlu eu llwyddiannau yn y maes pwysig hwn.

“Mae llawer o waith anweledig yn digwydd yn y maes hwn ac er yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth yma maent yn gwneud gwaith penigamp ac rwyf yn falch iawn o’r holl staff ac fe hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu hymroddiad i deuluoedd bregus Gwynedd.”

Yn ystod y flwyddyn 2021-22 derbyniodd cynllun Teuluoedd yn Gyntaf Gwynedd 578 o gyfeiriadau ac ymholiadau, gyda 398 o’r cyfeiriadau hyn yn cael cynnig cefnogaeth bellach gan y Tîm o Amgylch y Teulu a gwasanaethau eraill a gomisiynir trwy’r cynllun.

I fod yn gymwys ar gyfer cymorth gan Tîm o Amgylch y Teulu, rhaid i deulu fod a nifer o bethau yn eu poeni ac eisiau cymorth i’w ddatrys wrth greu cynllun a thynnu asiantaethau at ei gilydd i’w cefnogi. Mae gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i deuluoedd bregus, a sut mae gwneud cais am gymorth, ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd: Cefnogi Teuluoedd (llyw.cymru) / ffôn: 01758 704 455 / e-bost cyfeiriadauplant@gwynedd.llyw.cymru