Gwobr bersonol Uchel Siryf i Ieuenctid Gwynedd
Dyddiad: 12/04/2022
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Gwynedd wedi ennill Gwobr Bersonol yr Uchel Siryf yng Ngwobrau Trechu Trosedd a Chymuned Blynyddol Uchel Siryf Gwynedd 2022.
Mynychodd cynrychiolwyr y gwasanaeth y seremoni, a gynhaliwyd ar 24 Mawrth yn ystod wythnos Gŵyl Llesiant Ieuenctid Gwynedd 2022, a chyflwynwyd y wobr iddynt gan Dr Gwyn Owen, Uchel Siryf Gwynedd.
Derbyniodd Nia Rees, un o Weithwyr Ieuenctid anhygoel Ieuenctid Gwynedd, ynghyd â rhai o’i chriw DofE, Haydn, Fiona a Hayden o Ysgol Eifionydd, y wobr ar ran Ieuenctid Gwynedd. Yn ymuno â nhw roedd Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid, cyn Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu Mark Hughes (sydd bellach wedi ymddeol), Lizzie Wyn a Fiona Ruddle o Incredible Edibles Porthmadog.
Dywedodd Annette Ryan, Arweinydd Gwaith Cymorth Ieuenctid:
“Ni allwn ddiolch digon i Dr. Gwyn Owen am yr anrhydedd yma, ac am y caredigrwydd a’r anogaeth a ddangoswyd ganddo.
“Mae’n wobr ardderchog sy’n cydnabod yr arweiniad a’r gefnogaeth a roddir gan Weithwyr Ieuenctid i bobl ifanc ar draws Gwynedd. Roedd y noson wobrwyo yn fythgofiadwy!
“Mae Gweithwyr Ieuenctid yn gweithio’n galed i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu sgiliau personol, cymdeithasol ac addysgol mewn cymunedau ledled Gwynedd. Maent ar gael gyda'r nos, mewn ysgolion ac yn ystod y gwyliau.
“Mae pobol ifanc Gwynedd yn wych, ac yn haeddu pob cyfle i gyrraedd eu llawn botensial. Roedd yn anhygoel gallu rhannu’r profiad gyda rhai ohonyn nhw.
“Hoffem hefyd ddiolch i Heddlu Gogledd Cymru, yr ydym yn gweithio’n agos gyda nhw i fynd i’r afael â throseddau yng Ngwynedd. Rydym yn gweithio gyda swyddogion cymunedol ac wedi derbyn cyllid gan PACT yr Heddlu dros y blynyddoedd, sy’n galluogi ein Gweithwyr Ieuenctid i gynnig prosiectau a gweithgareddau hwyliog a chyffrous i bobl ifanc.”
Am fwy o wybodaeth am yr hyn mae Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Gwynedd yn ei gynnig, cysylltwch ag ieuenctid@gwynedd.llyw.cymru a dilynwch nhw ar Facebook a Twitter.