Gwaith yn cychwyn ar bont newydd dros Afon Rhyd-hir
Dyddiad: 06/04/2022
Mae’r gwaith paratoi yn cychwyn ar gyfer adeiladu pont newydd dros Afon Rhyd-hir ar yr A497 ym Moduan.
Cafodd cais cynllunio ei ganiatáu'r llynedd ar gyfer y bont fwa goncrit un rhychwant 17 metr newydd. Bydd y strwythur sydd i'w orchuddio â cherrig lleol wedi ei lleoli i'r de o Bont Bodfel bresennol.
Bydd yn cynllun hefyd yn ymgorffori aliniad y ffordd sy’n arwain at y bont, yn ogystal â gwelliannau i gyffordd Gefail y Bont i gyfeiriad Llannor i uno'n ddiogel gyda'r ffordd newydd.
Dywedodd Steffan Jones, Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol Cyngor Gwynedd:
“Rydym yn falch iawn fod y gwaith yn cychwyn ar y bont i groesi Afon Rhyd-hir ar y brif ffordd rhwng Pwllheli a Nefyn. Mae’r A497 yn ffordd strategol bwysig i’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y rhan yma o Wynedd.
“Nid oedd cau Pont Bodfel dros dro yn rhywbeth a oedd wedi ei gynllunio. Fodd bynnag, mae wedi rhoi cyfle i ni adfer a diogelu’r bont hanesyddol ac i ddatblygu cynlluniau ar gyfer ei defnyddio fel llwybr hamdden fel y bydd yn parhau’n strwythur pwysig am flynyddoedd i ddod i gerddwyr a beicwyr.
“Drwy fuddsoddi mewn pont newydd byddwn yn gwella llif traffig ar ffordd brysur iawn i bobl leol wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen i’r gwaith.
“Wrth gwrs, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â’r ardal haf y flwyddyn nesaf, bydd y bont newydd hefyd yn chwarae rhan bwysig o gynlluniau teithio'r rhai sydd yn bwriadu ymweld â’r Maes yn Awst 2023.”
Caewyd Pont Bodfel yn Ionawr 2019 oherwydd difrod sgwrio o dan y sylfeini. Mae pont ffordd ‘Bailey’ dros dro wedi bod yn ei lle gyda mesurau traffig yn y cyfamser fel bod cerbydau wedi gallu teithio ar hyd yr A497 heb fod angen gwyriad hir. Cwblhawyd y gwaith adfer ar Bont Bodfel y llynedd.
Ychwanegodd Steffan Jones: “Rydym yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at gynlluniau’r bont newydd. Bu difrod strwythurol sylweddol i Bont Bodfel a achoswyd gan ddifrod sgwrio o dan sylfeini'r bont.
“Fe wnaethom ystyried a fyddai’n bosib lledaenu’r bont i sicrhau ei bod yn bodloni anghenion rhwydwaith traffig heddiw. Fodd bynnag, wedi trafodaethau gyda Cadw a swyddogion cadwraeth, daeth i’r amlwg na fyddai hyn yn bosib.
“Mae gwaith rŵan yn cychwyn ar y bont fwa goncrit un rhychwant 17 metr newydd gyda chodiad o 3 metr i gyd-fynd gydag uchder Pont Bodfel bresennol. Os bydd popeth yn mynd fel y cynlluniwyd, rydym yn disgwyl y bydd y bont newydd ar agor erbyn dechrau haf 2023.”
LLUN: Dyluniad o sut bydd y bont newydd yn edrych