Artist lleol yn creu cerflun newydd i Storiel, Bangor
Dyddiad: 19/04/2022
Dewch i weld yr artist lleol Llŷr Erddyn Davies yn cerfio yn fyw yn Storiel rhwng 20 a 22 Ebrill 2022.
Mae Llŷr wedi'i gomisiynu i greu gwaith celf newydd wedi'i ysbrydoli gan eitemau o hetiau yng nghasgliad Storiel. Bydd yn cerflunio’r hetiau o'r casgliad i fwydo i mewn i'w ddyluniad ar gyfer y gwaith celf.
Mae hefyd yn gwahodd pobl leol a grwpiau cymunedol i rannu yr hetiau y maent yn credu sy'n eu cynrychioli, a fydd hefyd yn bwydo i ddyluniad y cerflun.
Dewch â'ch hetiau i Storiel rhwng 20 a 22 Ebrill 2022 a rhannwch eich stori am sut mae'n eich cynrychioli chi neu'ch cymuned gyda Llŷr.
Mae cyfleoedd hefyd i bobl gerflun eu darn eu hunain o hetiau mewn un o dri gweithdy galw heibio dan arweiniad Llŷr yn Storiel ar yr adegau canlynol:
10am-12 ac 1-3pm 20 Ebrill 2022
10am-12 ac 1-3pm 21 Ebrill 2022
10am-12 ac 1-3pm 22 Ebrill22
Ariennir y prosiect gan raglen 'Trawsnewid Trefi' Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Mae'n rhan o fenter ehangach i wella gofod awyr agored Storiel er mwyn creu ardal ddymunol i bobl ei mwynhau a'i gwella wrth ymgysylltu â'r gymuned.