Annog synnwyr cyffredin wrth ymweld â lleoliadau poblogaidd Gwynedd
Dyddiad: 07/04/2022
Gyda thymor y gwyliau ar y gorwel, mae awdurdodau yng Ngwynedd yn annog pawb sy’n bwriadu ymweld atyniadau poblogaidd i gynllunio o flaen llaw.
Mae disgwyl y bydd nifer uchel o bobl yn ymweld â chymunedau’r sir dros y misoedd nesaf. Mae llawer o waith paratoi wedi digwydd ac mae Cyngor Gwynedd yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i annog pobl i ymddwyn yn gyfrifol pan yn ymweld â chymunedau Gwynedd.
Dywedodd Dafydd Williams, Pennaeth Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd:
“Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld niferoedd uchel o bobl yn ymweld â llecynnau poblogaidd yma yng Ngwynedd.
“Rydym yn annog pobl i gynllunio’u hymweliad a gweithgareddau o flaen llaw; i ddefnyddio’r meysydd parcio priodol a manteisio ar y cyfle i ddefnyddio gwasanaethau bws sydd ar gael i grwydro’r ardal.
“Er enghraifft, bydd y gwasanaeth bws Sherpa yn rhedeg yn rheolaidd gan gysylltu llwybrau poblogaidd o gylch Yr Wyddfa. Bydd hyn yn galluogi pobl i barcio eu cerbydau yn y meysydd parcio priodol cyn mwynhau mynyddoedd Eryri ac atyniadau poblogaidd eraill sydd ar gael yma yn lleol.
“Fel Cyngor rydym yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru a Pharc Cenedlaethol Eryri i fonitro’r tueddiadau parcio. Mae staff yr holl bartneriaid yn cydweithio i gadw’r cyhoedd yn ddiogel a gofynnwn i drigolion a phobl sy’n ymweld i gadw hyn mewn cof tra’n ymweld a’r ardal a’u trin gyda pharch a caredigrwydd bob amser.
“Gofynnwn i fodurwyr i barchu’r cyfyngiadau parcio a chadw’r ffyrdd yn ddi-rwystr a diogel – mae enghreifftiau yn y gorffennol lle mae ceir wedi parcio’n anghyfreithiol a’i gwneud yn anodd iawn i gerbydau’r gwasanaethau brys fynd heibio.
“Bydd staff Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Gwynedd, sydd bellach â phwerau i dowio cerbydau i ffwrdd, yn rhoi sylw penodol i ardal Eryri.
“Ein neges ydi i fodurwyr barcio yn synhwyrol, ond os bydd angen, byddwn yn cymryd camau priodol i symud cerbydau sydd yn parcio’n anghyfreithlon er diogelwch y cyhoedd.”
Meddai’r Arolygydd Arwel Hughes o Heddlu Gogledd Cymru:
“Rydym yn croesawu pobol i’r ardal ond yn gofyn i’r cyhoedd gynllunio eu hymweliad o flaen llaw. Rwyf hefyd yn annog y cyhoedd i gymryd mantais ar y mesurau ychwanegol sydd nawr ar gael er mwyn lleihau problemau parcio a sicrhau diogelwch pawb yn yr ardal.
“Mi fydd yr heddlu yn parhau i weithio yn agos gyda Chyngor Gwynedd ac yn fodlon cymryd camau priodol er mwyn sicrhau diogelwch pawb lle bu angen.”
Nododd Emyr Williams, Prif Weithredwr, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:
“Gweledigaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ydi i ymwelwyr gynllunio ymlaen llaw ac ymweld ag Eryri mewn ffyrdd cyfrifol a chynaliadwy. Bydd cynnydd yn y gwasanaethau bws ar gyfer y tymor brig yn yr ardaloedd mwyaf poblogaidd a byddwn yn eu hyrwyddo’n amlwg ar ein sianeli ar-lein.
“Rydym yn gosod synwyryddion ym mhob un o’n meysydd parcio o amgylch godre’r Wyddfa fel y gall darpar ymwelwyr wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pa ardal y dymunant ymweld â nhw, a chael cynllun wrth gefn os yw meysydd parcio’n llawn.
“Mae’r Awdurdod hefyd yn cyflogi wardeniaid tymhorol ychwanegol eleni tra bydd grwpiau hynod frwdfrydig o wirfoddolwyr Yr Wyddfa, Cader Idris a Caru Eryri yn cynorthwyo gyda chasglu sbwriel a chyngor cyffredinol i ymwelwyr.”
Os ydych yn ansicr am leoliadau’r meysydd parcio, mae gwybodaeth hwylus ar gael ar wefan Cyngor Gwynedd ar www.gwynedd.llyw.cymru/parcio - mae nifer sylweddol o feysydd parcio’r Cyngor hefyd yn cynnig dull talu drwy ap clyfar ar y ffon ‘Paybyphone’. Mae gwybodaeth am feysydd parcio Parc Cenedlaethol Eryri ar gael ar eu gwefan www.eryri.llyw.cymru