Neges o gydymdeimlad ar farwolaeth ei Uchelder Brenhinol y Tywysog Philip, Dug Caeredin
Dyddiad: 09/04/2021
Yn dilyn y cyhoeddiad am farwolaeth ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin heddiw, mae Cadeirydd Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Edgar Owen, wedi datgan ei gydymdeimlad ar ran y Cyngor â’r Frenhines Elizabeth II a’r Teulu Brenhinol.
Meddai’r Cynghorydd Owen: “Anfonwn ein cydymdeimlad at y Teulu Brenhinol yn eu galar a thalwn deyrnged i’r diweddar Dug Caeredin am ei wasanaeth cyhoeddus a’i waith elusennol ar hyd ei oes. Cofiwn am y Frenhines, eu plant a’u teuluoedd ar y diwrnod hwn.”
Fel arwydd o barch, mae’r faner ar Bencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon, yn ogystal â holl adeiladau eraill y Cyngor wedi eu gostwng i hanner mast.
Yn unol â’r cyngor iechyd cyhoeddus, ni fydd llyfr cydymdeimlo ar gael yn adeiladau’r Cyngor. Gwahoddir aelodau’r cyhoedd i gyfrannu at y llyfr cydymdeimlo cenedlaethol ar-lein sydd i’w chael ar Y Wefan Frenhinol.
Cynghorir y cyhoedd i beidio â gosod blodau neu deyrngedau coffa eraill mewn mannau cyhoeddus. Mae’r Teulu Brenhinol yn deall y bydd aelodau’r cyhoedd yn dymuno mynegi eu galar ar farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol Dug Caeredin. Ffordd weddus o dalu teyrnged fyddai gwneud cyfraniad i un o’r sefydliadau oedd dan ei nawdd. Mae rhestr o’r sefydliadau hynny a manylion am sut i gyfrannu rhodd, i’w cael ar Y Wefan Frenhinol.
LLUN: Baner ar Bencadlys Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon wedi'i gostwng i hanner mast