Ysgolion Gwynedd yn arwain y ffordd wrth gefnogi plant gydag anghenion cyfathrebu

Dyddiad: 22/02/2022
Mae dwy o ysgolion Gwynedd yn gwneud y mwyaf o ffordd arloesol o weithio sydd wedi helpu sgiliau cyfathrebu eu disgyblion.

 Ysgol Pendalar ac Ysgol Hafod Lon oedd yr ysgolion arbennig cyntaf yng Nghymru i sicrhau’r statws ‘Lleoliad Cyfathrebu Gyfeillgar Elklan’.

 Roedd hyn yn dilyn dwy flynedd o waith caled gan y ddwy ysgol gydag aelodau allweddol o’r staff dysgu wedi derbyn hyfforddiant. Fe wnaeth holl staff yr ysgolion wedyn dderbyn hyfforddiant drwy sawl cam o ddysgu a chyflwyno’r rhaglen i ddisgyblion ar draws Caernarfon a Phenrhyndeudraeth.  

 Dywedodd y Cynghorydd Cemlyn Williams, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd:

 “Rydym yn falch iawn fod Ysgol Pendalar ac Ysgol Hafod Lon wedi cyflawni’r gamp hon – ac yn wir mai nhw oedd ysgolion arbennig cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

 “Mae cyfathrebu o bob math yn hanfodol er mwyn sicrhau bod pob unigolyn o fewn ysgolion yn cael eu clywed.

 “Mae’r gwaith a gwblhawyd i gyflawni’r nod ansawdd yma yn dangos ymrwymiad clir gan y ddwy ysgol i roi’r amodau gorau ar waith ar gyfer ymgysylltu â’u holl ddysgwyr a staff. Rydym yn hynod falch o’u llwyddiant.”

 Sefydlwyd Elklan ym 1999 gan ddau therapydd lleferydd ac iaith, Liz Elks a Henrietta McLachlan, i hyfforddi staff addysg i ddod yn fwy effeithiol wrth gefnogi plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu.

 Mae’r rhaglen yn cael ei defnyddio’n eang yn ysgolion Gwynedd ac yn cael ei hyrwyddo gan wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd y Bwrdd Iechyd lleol i gefnogi disgyblion ag anghenion cyfathrebu ychwanegol.

 Mae cyflawni achrediad ‘Lleoliad Cyfathrebu Gyfeillgar Elklan’ wedi bod yn fuddsoddiad sylweddol o amser i’r ddwy ysgol sy’n gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth Therapi Lleferydd ac Iaith gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad lleol.

 Ychwanegodd Liz Elks, Cyfarwyddwr Elklan Training:

 “Mae gan bob ysgol athrawon arbenigol a elwir yn Ymarferwyr Cyfathrebu Arweiniol sy’n adnodd parhaus i hyfforddi staff newydd a pharhau i feithrin gallu pob ysgol i gefnogi cyfathrebu.

 “Mae gan Lowri Roberts, a fu’n diwtor ar y rhaglen, ganmoliaeth uchel i bawb a gymerodd ran ac rwy’n arbennig o falch gan mai dyma’r ysgolion cyntaf i ennill statws Ysgol Arbennig Cyfeillgar i Gyfathrebu Elklan yng Nghymru.”