Tŷ Gwynedd – cynlluniau ar gyfer datblygiad cyntaf yng Nghoed Mawr, Bangor
Dyddiad: 25/02/2022
Mae’r cynlluniau ar gyfer y tai cyntaf i Gyngor Gwynedd eu hadeiladu ers dros 30 mlynedd wedi eu cyhoeddi ar gyfer safle yn ardal Coed Mawr, Bangor.
Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd y Cyngor, mae cynlluniau wedi eu datblygu ar gyfer adeiladu cartrefi ar gyfer pobl leol ar safle cyn-ysgol Coed Mawr ym Mangor. Mae’r Cyngor yn cychwyn ymgynghoriad statudol ar y cynlluniau i adeiladu chwech tŷ tair llofft a phedwar tŷ dwy lofft – gyda’r sylwadau fydd yn cael eu derbyn yn gymorth ar gyfer y cynlluniau terfynol ar gyfer y safle.
Os bydd hawl cynllunio yn cael ei ganiatáu, mae Adran Tai ac Eiddo’r Cyngor yn gobeithio y bydd y tai newydd yma ym Mangor ar gael i’w prynu/ rhentu diwedd 2023.
Trwy’r Cynllun ‘Tŷ Gwynedd’, mae’r Cyngor yn bwriadu adeiladu cartrefi newydd mewn cymunedau ar draws y sir. Bwriad y cynllun uchelgeisiol ydi cynnig cartrefi fforddiadwy canolraddol i’r nifer o bobl leol sy’n methu prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ac nad ydynt yn gymwys am dŷ cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Craig ab Iago, Aelod Cabinet Tai Cyngor Gwynedd:
“Mae cael mynediad at gartref fforddiadwy o safon yn hawl greiddiol i bob person. Yn anffodus, yn y sefyllfa bresennol mae gormod o bobl Gwynedd yn cael eu prisio allan o allu fforddio i rentu eiddo neu brynu eu tai eu hunain.
“Er mwyn taclo’r anghyfiawnder yma, mae Cyngor Gwynedd wedi datblygu Cynllun Gweithredu Tai ar gyfer y sir sy’n cynnwys dros 30 o gynlluniau fydd yn darparu 1,500 o gartrefi o safon i bobl y sir dros y pum mlynedd nesaf. Byddwn yn defnyddio cyllid sy’n cynnwys y premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a thai gwag i adeiladu tai newydd, prynu eiddo gwag a’u hadfer ynghyd a chynnig grantiau i bobl leol allu cael mynediad at dai.
“Y datblygiad cyffrous yma yng Nghoed Mawr ym Mangor ydi’r cyntaf o gynlluniau Tŷ Gwynedd. Mae’r ffigyrau yn dangos yn glir fod yna angen gwirioneddol am y math yma o dai fforddiadwy canolradd yn yr ardal – ac rydan ni’n awyddus i glywed barn pobl leol am y cynlluniau cychwynnol.
“Bydd y sylwadau yn ein helpu wrth gwblhau’r cynlluniau a chyflwyno ceisiadau cynllunio yn nes ymlaen eleni, ac os bydd hawliau’n cael eu sicrhau, rydan ni’n gobeithio y bydd y dai cyntaf yn barod yn ystod 2023. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael golwg ar y cynlluniau ac yn rhannu eich barn
“Dyma’r cyntaf o sawl cynllun Tŷ Gwynedd fydd yn cael eu cyflwyno dros y misoedd nesaf wrth i ni ddatblygu tai sy’n cyfarch anghenion pobl y sir.
“Os ydych chi’n awyddus i gofrestru diddordeb am gynlluniau Tŷ Gwynedd, gallwch wneud hynny trwy ymweld â www.gwynedd.llyw.cymru/TaiCoedMawr . Bydd yr holl wybodaeth fydd yn cael ei gyflwyno gan bobl wrth iddyn nhw gofrestru diddordeb yn ein helpu i gynllunio lle mae’r angen ac am ba fath o dai.”
Am fanylion am y cynlluniau arfaethedig ar gyfer datblygiad Tŷ Gwynedd ar gyfer safle Coed Mawr ym Mangor, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/taicoedmawr. Mae croeso hefyd i unrhyw un sydd â diddordeb i ddod draw i sesiwn gwybodaeth lle bydd swyddogion y Cyngor ar gael i ateb unrhyw gwestiwn am y cynlluniau yng Nghapel Berea Newydd, Bangor ar ddydd Iau, 3 Mawrth rhwng 2.30pm a 6.30pm.
Bydd Cyngor Gwynedd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am ddatblygiadau ‘Tŷ Gwynedd’ yn fuan. Os oes gennych diddordeb, ewch i www.gwynedd.llyw.cymru/ty-gwynedd i gofrestru diddordeb a bydd hynny yn eich galluogi i wneud cais pan fydd y tai cyntaf yn dod ar gael. Mae gwybodaeth am gynlluniau tai fforddiadwy ar draws y sir hefyd ar gael ar y wefan.
LLUNIAU
Delweddau artist o’r datblygiad
NODIADAU:
- Mae Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd yn nodi bwriad Cyngor Gwynedd i fuddsoddi mewn dros 30 o brosiectau amrywiol yn y cyfnod hyd at 2026/27 fydd yn gwella mynediad pobl y sir at gartrefi sydd o fewn eu cyrraedd.
- Un o’r cynlluniau yma ydi ‘Tŷ Gwynedd’ a fydd yn datblygu tai o ansawdd sy’n fforddiadwy i bobl leol. Bydd y Cyngor yn cyflawni hyn drwy lynu at yr egwyddorion dylunio canlynol:
- Fforddiadwy – cynnig tai i’w prynu a’u rhentu am bris sy’n fforddiadwy. Bydd y Cyngor yn gwerthu ar sail model rhan-ecwiti; er enghraifft bydd trigolyn yn ariannu canran o’r pryniant drwy gynilon a morgais a bydd y Cyngor yn benthyg y canran sy’n weddill yn erbyn yr eiddo. Bydd y Cyngor hefyd yn rhentu tai gan gynnig disgownt oddeutu 20% ar rhent misol;
- Addasadwy – mae’r gallu i addasu’r tŷ yn un o brif rhinweddau Tŷ Gwynedd. Mae gofod pwrpasol y tu mewn a thu allan i’r cartref a fydd yn gallu cael i addasu i gwrdd ag anghenion gwahanol unigolion neu deuluoedd, a bydd yn darparu’r sylfaen i addasu fel mae anghenion yr aelwyd yn newid dros amser;
- Cynaliadwy – bydd y datblygiadau yn gynaliadwy yn eu dyluniad a gwneuthuriad ac yn ceisio uchafu defnydd o ddeunyddiau cynaliadwy yn ogystal â’r gadwyn gyflenwi lleol;
- Ynni effeithiol – yn anelu i ddefnyddio’r technegau a technoleg diweddaraf ar gyfer lleihau ôl-troed carbon a hwyluso defnydd effeithiol o ynni i breswylwyr;
- Iach – creu amgylchedd sy’n hyrwyddo iechyd a lles cymunedau a’r cynefin.
- Mae dros 130 o geisiadau wedi eu cyflwyno trwy wefan Tai Teg am dai fforddiadwy canolraddol tair a dwy lofft i’w prynu a’u rhentu yn ardal Bangor ar hyn o bryd. Mae’r cynlluniau ar gyfer Tŷ Gwynedd Coed Mawr yn ymateb i’r galw yma yn lleol.