Storm Eunice – Cyngor Gwynedd yn atal gwasanaethau nad ydynt yn hanfodol
Dyddiad: 17/02/2022
Bydd gwasanaethau Cyngor Gwynedd nad ydynt yn hanfodol ar gau yfory (dydd Gwener, 18 Chwefror) oherwydd y rhybudd o dywydd eithafol. Mae’r Cyngor hefyd yn rhybuddio trigolion a busnesau lleol i baratoi a chymryd pob gofal posib rhag effeithiau Storm Eunice, ac i gadw golwg ar gymdogion a pherthnasau bregus.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi datgan rhybudd ambr ar gyfer y sir rhwng 5am-9pm yfory oherwydd gwyntoedd cryfion; mae rhybudd coch mewn ardaloedd eraill o Gymru gyda’r posibilrwydd y bydd yn troi’n goch yng Ngwynedd hefyd maes o law.
Bydd y gwasanaethau canlynol ar gau yfory:
• Ysgolion - Bydd holl ysgolion Gwynedd ar gau i staff a disgyblion oherwydd y trafferthion trafnidiaeth sylweddol allai godi. Bydd trefniadau i ddysgu o bell yn cael eu gwneud ble bynnag fo’n bosib.
• Llyfrgelloedd
• Canolfannau ailgylchu
• Canolfannau hamdden Byw’n Iach
• Parciau Gwledig
• Marinas a harbyrau
• Siop Gwynedd (derbynfeydd siop-un-stop y Cyngor ym Mhwllheli, Caernarfon a Dolgellau)
Gall gwasanaethau eraill gael eu heffeithio a gorfod cau yn ystod y dydd yfory. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi diweddariadau cyson ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Bydd gwasanaethau hanfodol yn parhau, gyda mesurau arbennig i ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau a staff. Er enghraifft, bydd cartrefi gofal a hosteli digartrefedd ar agor fel arfer.
Gwneir pob ymdrech i gasglu gwastraff ac ailgylchu. Os ydi eich gwastraff yn cael ei gasglu ar ddydd Gwener yn arferol, rhowch eich biniau allan mewn man diogel a chysgodol. Os nad ydynt wedi cael eu casglu, byddwn yn gwneud pob ymdrech i’w hel yn y dyddiau nesaf.
Cynghorir defnyddwyr bysiau y gallai pob gwasanaeth gael eu heffeithio, gan gynnwys gwyriadau posib a chanslo ar fyr-rybudd oherwydd y tywydd.
Golygai’r cyfuniad o wyntoedd a llanw uchel fod posibilrwydd cryf o lifogydd arfordirol ynghŷd â’r risg y bydd coed yn disgyn a difrod i adeiladau.
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda’n partneriaid cenedlaethol a rhanbarthol i baratoi am y storm sydd gyda’r potensial i fod y fwyaf i’r ardal ei gweld ers rhai blynyddoedd.
Mae’r Cyngor yn annog trigolion lleol i edrych ar ragolygon y tywydd o ffynhonnell ddibynadwy cyn mentro allan ac i gadw llygaid ar y cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf, er enghraifft:
Mae gwybodaeth am sut i baratoi ar gyfer cyfnod argyfwng a chysylltiadau defnyddiol yn ystod tywydd garw ar wefan y Cyngor.
Os ydych yn byw mewn ardal sydd mewn perygl o lifogydd gellir cofrestru am rybuddion llifogydd ar 0345 988 1188 24 / Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd (naturalresources.wales)