Model newydd i wella gofal cartref yng Ngwynedd
Dyddiad: 09/02/2022
Mae Cyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cydweithio i sefydlu model newydd ar gyfer gofal cartref yn y sir a fydd yn helpu pobl i fyw eu bywydau mor llawn â phosib yn eu cymuned.
Bydd y model newydd yn gwella'r ffordd mae'r gwasanaeth gofal cartref yn cael ei drefnu a'i ddarparu yng Ngwynedd, drwy gadw’r trefniadau mor lleol â phosib.
Drwy sefydlu timau lleol bydd staff gofal cartref yn cydweithio’n agos gyda staff iechyd a gofal cymdeithasol a meddygon teulu, a dod i ddeall beth sy’n wirioneddol bwysig i bobl sydd angen cymorth i fyw gartref. Byddant yn canolbwyntio ar gryfderau’r unigolion a’u cefnogi i ailgydio yn eu cylchoedd cymdeithasol a’u helpu i fyw mor annibynnol â phosib.
Bydd pob tîm lleol yn gweithio gyda darparwr gofal cartref penodol yn eu hardal, fydd yn ei gwneud hi’n haws i ymateb i anghenion ymhob cymuned.
Meddai’r Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Gofal Cyngor Gwynedd: “Mae gwaith da iawn eisoes wedi ei gynnal ar y cyd gyda’r Bwrdd Iechyd mewn cymunedau penodol i brofi ffordd newydd o weithio yn y maes yma.
“Yn draddodiadol, mae tuedd wedi bod i ganolbwyntio ar gwblhau tasgau penodol ar adegau penodol o’r dydd ac o fewn amserlen bendant. Ond wrth gwrs, tydi’r ffordd yma o weithio ddim yn rhoi llawer o hyblygrwydd i drafod a deall dyheadau go iawn pobl ac i weld yn union pa fath o gymorth maent ei angen i gael bywyd da.
“Drwy ddod a’r darparwr gofal lleol, staff iechyd a gofal cymdeithasol a’r trydydd sector at ei gilydd, gallwn ddeall anghenion a theilwra’r cymorth yn fwy penodol, ac ymateb i’r galw cynyddol am ofal sydd wedi ei weld dros y blynyddoedd diweddar ynghyd â’r heriau recriwtio.”
Fel rhan o’r model newydd bydd y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn comisiynu ar y cyd am y tro cyntaf, ac yn gwneud hynny ar sail is-ardaloedd yng Ngwynedd.
Dywedodd Chris Lynes, Cyfarwyddwr Nyrsio Ardal y Gorllewin ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Gwynedd i ddatblygu’r model newydd hwn ar gyfer gofal cartref yng Ngwynedd.
“Bydd gweithio integredig rhwng pawb sy’n ymwneud â gofalu am unigolion yn eu cartrefi eu hunain yn sicrhau’r canlyniadau gorau i’r unigolion hynny.
“Bydd y model newydd hwn hefyd yn rhoi sefydlogrwydd i’r gofalwyr a’r farchnad y maent yn gweithio ynddi.”
Gan barhau i gynnal marchnad gymysg bydd y Cyngor yn parhau i ddarparu o leiaf hanner y farchnad gofal cartref mewn cymunedau penodol, tra bydd cwmnïau arbenigol annibynnol mewn cymunedau eraill. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws i drefnu a darparu gofal, yn lleihau amser teithio ac yn rhoi mwy o sicrwydd i staff a gwell gwasanaeth i’r unigolion.
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig: “Fel rhan o’r contractau newydd byddwn yn cysoni amodau a thelerau staff ar draws y sir.
“Byddwn yn rhoi sicrwydd i ddarparwyr drwy gytundebau tymor penodol yn hytrach na thalu fesul pecyn gofal, a chreu’r amodau ar gyfer recriwtio, datblygu a chadw staff yn y maes.”
Bwriad y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yw agor y broses dendro ddiwedd Mawrth eleni, ond ni fyddai unrhyw newidiadau’n digwydd tan fydd y broses yma wedi ei chwblhau yn ystod misoedd yr haf.
“Mae’n bwysig nodi y bydd pawb sydd angen gofal cartref yn parhau i’w dderbyn dan y model newydd,” ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig.
“Mi fyddwn ni’n cadw cysylltiad rheolaidd efo pawb sy’n derbyn y gwasanaeth dros y misoedd nesaf er mwyn eu cefnogi a thrafod unrhyw newidiadau posib, ac mi fydd pob gwybodaeth yn cael ei rannu’n brydlon efo nhw a’u teuluoedd.”
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor: www.gwynedd.llyw.cymru/gofalcartref , neu cysylltwch efo’r Tîm Prosiect Gofal Cartref ar 01286 679577, e-bost: GofalCartref@gwynedd.llyw.cymru