Llyfrgell Pwllheli i ail-agor yn dilyn adnewyddiad sylweddol Neuadd Dwyfor

Dyddiad: 10/02/2022
neuadd dwyfor

Bydd Llyfrgell Pwllheli yn ail-agor ei drysau ar Ddydd Llun, 14 o Chwefror ar ôl bron i flwyddyn o waith adnewyddu ar adeilad Neuadd Dwyfor.

 Gyda buddsoddiad sylweddol o dros £900,00 i ddiweddaru ac uwchraddio’r llyfrgell a cyfleusterau theatr a sinema, mae staff Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd yn edrych ymlaen i groesawu’r cyhoedd yn ôl i’r adeilad poblogaidd.

 Dywedodd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd ar gyfer Economi a’r Gymuned:

 “Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Neuadd Dwyfor ar ei newydd wedd yn ddiweddar – bydd y gwelliannau a wnaed yn sicrhau bod y cyfleuster poblogaidd hwn mewn cyflwr da am flynyddoedd i ddod.

 “Mae’r holl staff yn gyffrous iawn i allu croesawu defnyddwyr presennol a newydd, i’r llyfrgell, a gwyddom fod pobl yr ardal wedi methu cael eu llyfrgell ar agor.

 “Bydd y llyfrgell yn croesawu defnyddwyr yn ôl gyda dodrefn a silffoedd newydd sbon ac ardal benodedig atyniadol i blant a fydd yn cynnal sesiynau amser stori a rhigymau babanod rheolaidd i blant.

 “Mae’r ardal blant hefyd yn cynnwys dyfyniad o gerdd gan yr awdur plant lleol a chyn Fardd Plant Cymru, Casia Wiliam. Bydd manylion am amseroedd stori plant ac amser rhigymau babanod sydd i ddod yn cael eu rhyddhau ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol y Llyfrgell a gellir archebu digwyddiadau ymlaen llaw i sicrhau diogelwch pawb yn ystod cyfyngiadau Covid.”

 Fel rhan o drefniadau gweithio newydd yn Neuadd Dwyfor, unwaith bydd y Theatr a’r Sinema ar agor yn yr wythnosau nesaf, bydd y llyfrgell yn symud i oriau agor estynedig, gyda defnyddwyr yn gallu cael mynediad at lyfrau llyfrgell a chyfrifiaduron drwy hunan-wasanaeth, a bydd y bar coffi yn weithredol yn ystod prynhawniau unwaith y bydd rhaglen ffilm yn ei lle.

 Bydd defnyddwyr llyfrgell hefyd yn elwa o’r cyfleuster toiled hygyrch ar y llawr gwaelod yn ogystal â’r fynedfa sydd wedi cael ei dylunio i fod yn ofod ar gyfer ymlacio a chymdeithasu. Gellir llogi’r llyfrgell gyda’r nos os yw grŵp neu gymdeithas eisiau hurio’r gofod ar gyfer cyfarfodydd, a chan fod y silffoedd ar olwynion bydd modd gwneud lle yn hawdd i grwpiau.

 Roedd Barbara Lawrence, un o aelodau o Dîm Defnyddwyr Neuadd Dwyfor a defnyddiwr cyson o Lyfrgell Pwllheli, yn un o’r ychydig gafodd gipolwg ar y llyfrgell cyn iddi agor i’r cyhoedd.

 “Mae’r Llyfrgell yn ardderchog. Rydym yn gwerthfawrogi bod o wedi’i adnewyddu mor dda. Mae pawb dwi’n nabod mor hapus i ddefnyddio’r llyfrgell eto a’r sinema hefyd. Mi fyddan nhw’n aros wrth y drws pan fydd y lle yn ail-agor!”

 Gall defnyddwyr hefyd archebu llyfrau i'w casglu yn y Llyfrgell ym Mhwllheli. Bydd angen rhif eich cerdyn llyfrgell a PIN www.gwynedd.llyw.cymru/catalogllyfrgell neu cysylltwch â’r llyfrgell yn uniongyrchol ar e-bost LlPwllheli@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio’r tîm ar 01758 612089.

 Mae rhagor o wybodaeth am Llyfrgelloedd Cyngor ar gael yn www.gwynedd.llyw.cymru/llyfrgell

 LLUNIAU:

1 – Y Cynghorydd Gareth Thomas yn y llyfrgell gyda’r cyfrifiaduron cyhoeddus

2 – Y Cynghorydd Gareth Thomas a Maer Pwllheli, Mici Plwm yn Neuadd Dwyfor

3 - Y cyntedd ar ei newydd-wedd yn adeilad Neuadd Dwyfor