Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod rhag ofn y daw tywydd garw
Dyddiad: 02/02/2022
Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod rhag ofn y daw tywydd garw
Mae Cyngor Gwynedd yn annog trigolion y sir i wneud defnydd o adnodd newydd ar-lein sy’n dwyn ynghyd gwybodaeth ac arweiniad ddefnyddiol i baratoi ar gyfer tywydd garw.
Nod www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf ydi cynnig siop-un-stop i drigolion Gwynedd gael cyngor am baratoi ar gyfer tywydd gaeafol, manylion am y gefnogaeth sydd ar gael i gadw eich cartref yn gynnes.
Mae’r dudalen newydd yn cynnwys gwybodaeth am:
- Gymorth i wresogi eich cartref gan gynnwys manylion am gefnogaeth ariannol posib i bobl daclo tlodi tanwydd;
- Ffyrdd Gwynedd sy’n cael eu graeanu a threfniadau biniau halen yn y sir;
- Sut i adrodd am broblemau fel coeden wedi syrthio neu oleuadau stryd sydd wedi torri;
- Sut i gael y diweddaraf am rybuddion llifogydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru;
- Gwasanaethau’r Cyngor allai fod wedi eu heffeithio yn ystod tywydd garw;
- Rhagolygon o dywydd garw gan y Swyddfa Dywydd;
- Y diweddaraf gan bartneriaid fel y Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaethau Brys.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol Cyngor Gwynedd:
“Mae tymor y gaeaf bob blwyddyn yn dod a’i heriau, ond gallwn ni i gyd leihau’r effaith trwy gymryd camau bychan i fod yn barod amdano. Ar ddechrau’r flwyddyn, mae’n amser da i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa gymorth sydd ar gael pe bai tywydd stormus neu oer yn taro, ac i feddwl beth allwch chi ei wneud i baratoi.
“Rydw i’n falch iawn fod adran newydd ar wefan y Cyngor sy’n dod â llawer o wybodaeth ddefnyddiol at ei gilydd mewn un lle allai fod o ddefnydd i bob un ohonom.
“Mae’n cynnwys gwybodaeth am y lonydd sy’n cael eu graeanu, sut i roi gwybod i’r Cyngor am broblemau oherwydd tywydd garw neu sut i gael gwybod am rybuddion llifogydd.
“Yn bwysig iawn, mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut all pobl sy’n dioddef o dlodi tanwydd wneud y mwyaf o’r gefnogaeth ariannol ac ymarferol sydd ar gael iddynt i gadw eu cartrefi yn gynnes, a chyngor am foeleri a mesuryddion ynni clyfar.
“Mi fyddwn i’n annog unrhyw un i daro golwg ar y cyngor a chefnogaeth defnyddiol ac ymarferol sydd ar gael ar dudalen www.gwynedd.llyw.cymru/gaeaf ac arbed y manylion fel ffefryn rhag ofn y byddwch ei angen yn y dyfodol.
“Mae mwy a mwy o drigolion Gwynedd yn troi at ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor ar-lein, ac mae modd cael mynediad rhwydd at wasanaethau trwy’r wefan a’r ap ffôn clyfar ‘apGwynedd’.”