Gweithio'n y maes gofal - digwyddiad recriwtio Cartref Plas Hedd, Bangor
Dyddiad: 17/02/2022
Gyda heriau recriwtio staff cyffredinol yn y maes gofal, mae Cyngor Gwynedd yn cynnal sesiwn recriwtio i geisio denu staff newydd ar gyfer Cartref Preswyl Plas Hedd ym Mangor.
Fel rhan o ymgyrch cyffredinol yn y maes gofal, bydd y digwyddiad wyneb i wyneb yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ieuenctid, Maesgeirchen ym Mangor ar ddydd Gwener, 4 Mawrth o 12pm tan 5pm.
Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Gofal Cyngor Gwynedd:
“Mae sicrhau fod digon o staff yn y maes gofal yn her sy’n wynebu gwasanaethau ar hyd a lled y wlad. Fel Cyngor, rydym yn falch iawn o’n staff ymroddedig sy’n darparu gofal o safon i bobl mewn cartrefi gofal ac yn y gymuned ac mi wn i fod eu gwaith yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl bob un diwrnod.
“Fel rhan o’n hymdrech barhaus i recriwtio i’r maes gofal, rydym yn cynnal sesiwn recriwtio ar gyfer Cartref Plas Hedd ym Mangor – bydd yn gyfle i ddarpar-staff glywed am y gwaith a dysgu am y buddion o weithio i ni fel Cyngor.
“Felly os ydych chi’n rhywun sy’n hoffi helpu pobl ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth mawr o fewn eich cymuned leol, yna mi fyddwn i’n eich annog i ddod draw i’r digwyddiad ar 4 Mawrth.”
Bydd y digwyddiad recriwtio yn agored i unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu mwy am gyfleoedd sydd gan y cartref ar hyn o bryd yn ogystal a pa gefnogaeth sydd gan y Cyngor a’r Ganolfan Byd Gwaith i gefnogi unigolion i waith.
Ar y diwrnod, bydd cyfle i glywed am fanteision gweithio i’r Cyngor, gwybodaeth am yr hyfforddiant a chefnogaeth sydd ar gael i staff newydd, blas ar ofal a bywyd gweithio mewn cartref preswyl gan gynnwys rhai o staff Plas Hedd.
Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gwybod mwy am weithio mewn cartref preswyl – bydd y sesiwn ar agor o 12pm tan 5pm ar ddydd Gwener, 4 Mawrth yng Nghanolfan Ieuenctid, Maesgeirchen ym Mangor (LL57 1LS).
LLUNIAU: Mae diwrnod recriwtio ar gyfer Cartref Plas Hedd yn cael ei gynnal ar ddydd Gwener, 4 Mawrth